Amcanion cynllun corfforaethol newydd Grŵp Cynefin i atal diboblogi gwledig yng ngogledd Cymru
Bydd cynllun corfforaethol newydd Grŵp Cynefin yn helpu i atal diboblogi gwledig yng ngogledd Cymru, gyda bwriad i adeiladu 300 o gartrefi newydd erbyn 2028.
Rhan ganolog o’r cynllun corfforaethol newydd ar gyfer 2025-28 yw cynyddu’r stoc o dai fforddiadwy, rhoi hwb i’r economi leol a chefnogi’r Gymraeg ar yr un pryd.
Mae’r strategaeth, o’r enw Lle i Berthyn, hefyd yn cynnwys datgarboneiddio miloedd o gartrefi presennol.
Mae’r broses honno eisoes ar droed gyda 221 cartref wedi derbyn gwaith ol-osod. Mae’r gwariant hyd yn hyn yn £5,426,338, gyda buddsoddiad ar gyfartaledd yn £24,553 yr un i bob eiddo.
Mae’r cynllun corfforaethol yn dynodi cychwyn newydd i Grŵp Cynefin, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 10 oed y llynedd, gyda thîm arweinyddiaeth weithredol newydd yn cefnogi gweledigaeth newydd y Prif Weithredwr Mel Evans ar gyfer y grŵp
Sefydlwyd Grŵp Cynefin yn dilyn uno dwy gymdeithas dai, sef Tai Clwyd a Tai Eryri ac mae ganddo ddwy brif swyddfa ym Mhenygroes a Dinbych.
Mae ganddo hefyd ddau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy’n helpu perchnogion tai a thenantiaid hŷn mewn tai sector preifat i fyw’n annibynnol.
Yn ôl Mel Evans, mi wnaeth mwy na 500 o denantiaid, staff ac aelodau’r bwrdd chwarae eu rhan wrth lunio’r cynllun newydd ar gyfer 2025-28.
Dywedodd bod newid arwyddair y sefydliad o Mwy na Thai i Lle i Berthyn yn gam bwriadol er mwyn nodi agor pennod newydd yn hanes Grŵp Cynefin a phwysleisio ei fod yn sefydliad cyfeillgar, croesawgar a chynhwysol.
Dywedodd Mr Evans: “Ein nod yw bod yn sefydliad cynhwysol ac effeithiol sy’n darparu cartrefi diogel, cynaliadwy ac o ansawdd.
“Mae lansio’r cynllun corfforaethol newydd yn gam pwysig oherwydd mae’n ailosod Grŵp Cynefin yn ei gyfanrwydd, gan amlinellu ein cyfeiriad i’r dyfodol ac yn amlinellu strategaeth ar gyfer cyflawni ein nodau.
“Fe wnaethon ni ddadorchuddio’r cynllun a’r arwyddair newydd mewn cyfres o gyfarfodydd gyda’n staff, tenantiaid, cwsmeriaid ac aelodau’r bwrdd ac rwy’n falch o ddweud ei fod wedi cael croeso cynnes. Mae’n crynhoi’n daclus a chryno ein hethos, o ran darparu tai a lle i weithio.
“Mae’r angen am dai fforddiadwy yn enfawr. Mae mwy o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Yn draddodiadol, pobl sengl yn bennaf oed dy bobl yma, ond erbyn hyn mae ymchwil yn dangos bod mwy o deuluoedd yn ogystal â phobl ifanc yn yr un sefyllfa.
“Rydym yn anelu at adeiladu 300 o gartrefi newydd erbyn 2028 sy’n amcan rhesymol i sefydliad o’n maint.
“Ein cenhadaeth yw adeiladu cartrefi sydd eu dirfawr angen yn ein cymunedau traddodiadol, cefnogi’r Gymraeg a galluogi pobl i aros yn eu cymunedau eu hunain. Mae hynny yn rhan o DNA Grŵp Cynefin.
“Mae diboblogi yn yr ardaloedd hyn wedi bod yn broblem ers degawdau a’n nod yw gweithio gyda’n partneriaid, fel cynghorau lleol, i atal y llif yna o bobl sy’n symud i ffwrdd.
“Fel cymdeithas dai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hefyd yn rhan o’n cenhadaeth i hyrwyddo’r iaith yn ein hardaloedd gwledig.
“Yn ogystal ag adeiladu cartrefi, rydym yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn creu cyfleoedd a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol pryd bynnag y bo modd.
“Rydym eisiau cefnogi pobl leol i dyfu efo ni ac rydym yn rhoi mesurau ar waith i alluogi contractwyr llai i gynnig am waith gyda ni.
“Rydym hefyd eisiau darparu cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau i bobl ifanc yn ein cymunedau.
“Yn ogystal â bod yn bwysig i’n tenantiaid, rydym hefyd eisiau i’n staff deimlo bod ganddyn nhw le i berthyn.
“Mae darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol i’n staff yn flaenoriaeth a gyda hynny mewn golwg rydym newydd benodi swyddog hyfforddi ac addysg.
“Rydym am sicrhau bod ein staff yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa gyda Grŵp Cynefin
“Bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar wneud y gorau o bob ceiniog sydd gennym i fuddsoddi yn ein stoc dai er budd ein tenantiaid a’n cymunedau.
“Mae hefyd yn newyddion gwych i’r economi leol a dyna pam rydym mor awyddus i gadw’r bunt Gymreig yng Nghymru.”
Yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd, mae Grŵp Cynefin yn dweud y bydd hefyd yn canolbwyntio ar wella ei stoc bresennol o 5,000 o gartrefi.
Ychwanegodd Mr Evans: “Rydym hefyd wedi ymrwymo i raglen fuddsoddi uchelgeisiol yn ein stoc dai bresennol er mwyn sicrhau bod ein cartrefi yn gyfforddus ac yn ddiogel i’n holl denantiaid.
“Mae gennym hefyd raglen ar waith, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i ddatgarboneiddio ein cartrefi drwy osod paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer, gwella inswleiddio, gosod ffenestri newydd.
“Mae datgarboneiddio ein stoc yn bwysig ar gymaint o lefelau gan y bydd yn lleihau costau ynni i’n tenantiaid ac yn well i’r amgylchedd ar yr un pryd.”
Yn ôl cadeirydd Grŵp Cynefin, Tim Jones, roedd y cynllun corfforaethol yn nodi dechrau pennod newydd a chyffrous yn hanes y sefydliad.
Dywedodd: “Rwy’n Gadeirydd newydd, mae Mel yn Brif Weithredwr newydd ac mae gennym strwythur uwch reolaeth newydd a ffordd newydd o weithio.
“Rydym eisiau bod yn llawer mwy agored a chynhwysol fel y gallwn sicrhau bod ein tenantiaid a’n staff i gyd yn teimlo’n rhan o deulu Grŵp Cynefin.
“Dyna pam yr aethom ati i gynnwys cymaint o bobl, tenantiaid a staff a phosib wrth lunio cynllun, yn hytrach na thîm arweinyddiaeth o bell mewn tŵr ifori yn pennu pethau o’r top.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi siarad â llawer o denantiaid a staff ac mae’n amlwg bod llawer o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn.
“Mae’n fwy na lle rydych chi’n gweithio o 9 i 5, mae’r rhan fwyaf o’r busnes yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r staff yn rhan o’r gymuned y maen nhw’n ei gwasanaethu ac maen nhw’n ymroi i wella bywydau ein tenantiaid.”
I weld cynllun corfforaethol Grŵp Cynefin ar gyfer 2025-28, Lle i Berthyn, ewch i https://www.grwpcynefin.org/amdanom-ni/lle-i-berthyn-ein-cynllun-corfforaethol-2025-2028/
Am ragor o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305