Peidiwch oedi cyn adrodd ar broblem

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o reolau y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol eu dilyn i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn iach ac yn gyfforddus. 

Mae rheolau newydd SATC yn golygu bod landlordiaid yn gorfod ymateb i risgiau iechyd a diogelwch o fewn amser penodol.  

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?  

Y peth pwysicaf ydi: 

Rhoi gwybod am unrhyw broblem cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os ydych chi’n meddwl ei bod yn berygl i’ch diogelwch.  

Cofiwch: 

  • Peidiwch oedi cysylltu â ni, hyd yn oed os oes gennych bryderon eraill fel ôl-ddyledion rhent. 
  • Ein blaenoriaeth yw eich cadw’n ddiogel yn eich cartref. 
  • Y cynharaf byddwch yn riportio rhywbeth, y mwyaf cyflym y gallwn ni ddelio ag o. 

I adrodd ar broblem, ffoniwch 0300 111 2122  

Cookie Settings