07 Ebr 2026

Peidiwch oedi cyn adrodd ar broblem

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o reolau y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol eu dilyn i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn iach ac yn gyfforddus.  Mae rheolau newydd SATC yn golygu bod landlordiaid yn gorfod ymateb i risgiau iechyd a diogelwch o fewn amser penodol.   Beth mae hyn yn ei olygu i chi?   Y peth pwysicaf ydi:  Rhoi gwybod am unrhyw broblem cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os ydych chi’n meddwl ei bod yn berygl i’ch diogelwch.   Cofiwch:  Peidiwch oedi cysylltu â ni, hyd yn oed os oes gennych bryderon eraill fel ôl-ddyledion rhent.  Ein blaenoriaeth yw eich cadw’n ddiogel yn eich cartref.  Y cynharaf byddwch yn riportio rhywbeth, y mwyaf cyflym y gallwn ni ddelio ag o.  I adrodd ar broblem, ffoniwch 0300 111 2122  

Cookie Settings