Galw ar y pleidiau gwleidyddol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol
Mae cymdeithasau tai gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol sydd wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, 27 Ionawr) yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Senedd, yn galw am barhau i fuddsoddi yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r ymgyrch ‘Cartrefi; ar gyfer pob dyfodol’ gan Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw am gynllun dewr y gellir ei gyflawni i ddod â’r argyfwng tai yng Nghymru i ben.
Mae’r ymgyrch yn galw am gartrefi da y gall pobl eu fforddio mewn cymunedau; cartrefi sy’n adeiladu dyfodol gwell a llefydd iachach a thecach sy’n rhoi pawb mewn sefyllfa i lwyddo.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Polisi ac Adnoddau Adra; Claire Shiland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Tai Gogledd Cymru; Sharon Morris, Cyfarwyddwr Cymdogaethau Grŵp Cynefin; Suzanne Mazzone, Cyfarwyddwr Gweithredol – Gwasanaethau Tai ClwydAlyn; a Dan Hall – Cyfarwyddwr Gweithredol – Cwsmeriaid a Chymunedau Cartrefi Conwy:
“Rydym yn cefnogi’r ymgyrch sydd wedi cael ei lansio gan Gartrefi Cymunedol Cymru yn llwyr, sy’n galw am gynllun deng mlynedd i ddod â’r argyfwng tai yng Nghymru i ben.
“Mae galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol fforddiadwy a thai marchnad agored ar draws gogledd Cymru. Mae hi’n hawl sylfaenol i bobl gael cartref sy’n ddiogel a fforddiadwy.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu erbyn 2026 ac mae gennym ni rôl i gyrraedd y targed hwnnw.
“Mae ‘na awydd o fewn y sector tai cymdeithasol yn y gogledd ac ar draws Cymru i wneud gwir wahaniaeth drwy chwarae ein rhan, ond er mwyn gwneud hynny mae angen buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru. Does na ddim un ateb i ddatrys yr argyfwng, ond gallwn wneud gwahaniaeth drwy weithio gyda’n gilydd.
“Mae gennym ni hefyd heriau sylweddol o gwmpas y cynlluniau uchelgeisiol i ddatgarboneiddio ein stoc presennol, yn cynnwys cwrdd â’r her o gyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023. Bydd y Safonau hyn yn helpu i wwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, ond mae cwestiynau mawr ynghylch sut y bydd hyn i gyd yn cael ei ariannu.
“Byddai buddsoddiad parhaus mewn tai cymdeithasol yn cael budd ehangach yn ein cymunedau, yn cynnwys mwy o gefnogaeth i denantiaid, creu swyddi newydd yn lleol drwy fuddsoddi yn ein stoc ac adeiladu tai newydd, yn ogystal â hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant”.
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch ar cyfathrebu@grwpcynefin.org.