Grŵp Cynefin yn annog mwy o bobol i ddefnyddio beiciau yn y flwyddyn newydd
Gyda miloedd ohonom ni yn gwneud addunedau i fod yn iachach, gwneud mwy o ymarfer corff a byw yn fwy ‘gwyrdd’ yn 2026, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin hefyd yn gwneud ei rhan. Bydd storfa beiciau newydd yn gwneud yn siŵr bod tenantiaid Grwp Cynefin ym Machynlleth yn gallu cadw eu beiciau yn ddiogel, gan hefyd annog mwy o bobol i feicio yn y dyfodol.
Mae hwn yn gam cadarnhaol wrth i’r gymdeithas dai, sy’n berchen ar dros 5,000 eiddo yng ngogledd Cymru a Phowys, geisio hyrwyddo iechyd a lles ymysg eu tenantiaid, ac wrth gwrs annog ffyrdd mwy gwyrdd o fyw.
Bydd gofod wedi ei neilltuo yn benodol i gadw beiciau yn yn ddiogel heb orfod eu cadw yn y tŷ neu fflat yn help mawr i denantiaid.
Dim ond y dechrau yw hyn, gyda mwy o stordai beiciau tebyg wedi eu cynllunio ar gyfer tenantiaid eraill Grŵp Cynefin.
Mae’r prosiect wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, ac yn rhan o ymrwymiad y grŵp i leihau ôl troed carbon a chefnogi iechyd a lles cymunedau.
Meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin:
“Mae hon yn garreg filltir i ni – ein stordy beiciau cyntaf – gyda rhagor ar y ffordd. Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cyfleuster hwn i denantiaid ym Machynlleth ac yn edrych ymlaen at ehangu’r fenter hon. Mae beicio’n ffordd wych o gadw’n heini a helpu’r amgylchedd ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y stordai yma yn gwneud beicio’n haws ac yn ddewis mwy deniadol i bobol yn eu bywydau bob dydd.”
Dywedodd Nicola Grima, Arweinydd Rhaglen Cyflawni Teithio Egnïol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni’n falch o weithio gyda Grŵp Cynefin gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu storfa feiciau ddiogel newydd ar gyfer cartrefi a mannau cymunedol ledled Cymru. Drwy gam un o’n rhaglen hongian beiciau rydym yn gosod 40 teclyn hongian ar draws wyth cymdeithas dai wahanol, gyda chynlluniau ar gyfer rhagor mewn gorsafoedd rheilffordd. Bydd y gwelliannau ymarferol hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio ac rydyn ni’n falch o ddod â’r manteision hyn i’r cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gan Grŵp Cynefin.”
Meddai Ronald Olden, un o denantiaid Grŵp Cynefin sy’n defnyddio’r storfa:
“Mi gollais i rhywfaint o fy ngolwg ar ôl strôc a dydw i ddim yn gallu gyrru car bellach. Mae’r storfa yma yn golygu ‘mod i yn gallu gadw beic yn ddiogel, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini. Diolch i Grŵp Cynefin, Trafnidiaeth Cymru a Seiclo Dyfi, wnaeth fy ngalluogi i gael beic, am wneud hyn i gyd yn bosibl.”