Partneriaethau’n Cefnogi Cymunedau Cyn y Nadolig
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn cydweithio â chontractwyr lleol, y partneriaid sy’n cydweithio i adeiladu tai fforddiadwy i bobl leol, i gefnogi prosiectau cymunedol cyn y Nadolig. Bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ar adeg heriol o’r flwyddyn.
Mae’r cyfraniadau yma’n rhan o ymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol yn yr ardaloedd lleol fel rhan o gytundebau datblygu.
Cyfrannodd un o’r partneriaid, Gareth Morris Construction, tuag at Fanc Bwyd Dyffryn Conwy, gan helpu teuluoedd sydd angen cymorth bwyd dros gyfnod y Nadolig. Mae NWPS Construction Ltd wedi rhoi cyfraniad i HWB Dinbych a Prosiect Ieuenctid Dinbych, gan gefnogi’r gwaith gwerthfawr sy’n helpu teuluoedd difreintiedig yn yr ardal. Gwnaeth Williams Homes (Bala) gyfraniad i Congl Meinciau, Botwnnog, canolfan Grŵp Cynefin sy’n darparu lle diogel a chymorth i’r gymuned, gan redeg gweithgareddau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac annog iechyd a lles.
Dywedodd Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin:
“Mae’n galonogol gweld ein partneriaid yn cefnogi cymunedau lleol. Mae’r cyfraniadau hyn yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy’n wynebu heriau ychwanegol dros y Nadolig.”
Ychwanegodd Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin:
“Mae gweithio’n agos gyda chontractwyr lleol yn ganolog i’n ffordd ni o weithio. Mae eu cyfraniadau yn dangos sut y gall cydweithio gryfhau cymunedau a chreu effaith gadarnhaol barhaol.”
Meddai’r Cynghorydd Elizabeth Roberts, sy’n gynghorydd dros Betws y Coed a Threfriw, ardal sy’n manteisio o wasanaeth Bwyd Dyffryn Conwy:
“Mae’n wych gweld busnesau lleol yn dod at ei gilydd i gefnogi ein cymunedau ar adeg mor bwysig o’r flwyddyn. Mae’r cyfraniadau hyn nid yn unig yn darparu cymorth, ond hefyd yn dangos gofal a chydweithrediad gwirioneddol. Mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd a phrosiectau sy’n gweithio’n galed i wella lles pobl lleol.”
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Ffion Roberts, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata yn Grŵp Cynefin:
Ffion.roberts@grwpcynefin.org / 0300 111 2122