Rhybuddion tywydd garw
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a rhybudd llifogydd yn fyw ar y funud yng Nghymru. Cadwch olwg ar y rhagolygon diweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru a chadwch yn ddiogel.
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda’n staff os bydd y galw yn uchel. Rydym yn addo delio gyda’ch ceisiadau cyn gynted ag y gallwn.
Os ydych yn denant i Grŵp Cynefin ac os oes angen unrhyw gymorth brys arnoch, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. Ar gyfer adrodd ar waith trwsio nad ydynt yn rai brys cysylltwch a ni yma
Os yn argyfwng ffoniwch 999.
Rhifau defnyddio eraill:
Trydan 105
Dŵr Cymru 0800 052 0130
Nwy 0800 111999
Cyfoeth Naturiol Cymru 0300 065 3000
Peidiwch a cheisio delio gyd difrod eich hun os yn beryglus. Diolch am fod yn amyneddgar a chadwch yn ddiogel.