Prawf Rhybudd Argyfwng Cenedlaethol
Prawf Rhybudd Argyfwng Cenedlaethol – rhybudd i oroeswyr cam-driniaeth
Dydd Sul 7fed Medi, 3pm bydd system rhybuddio argyfwng newydd y DU yn anfon seiren uchel, neges a dirgryniad i bob ffôn addas hyd yn oed os wedi ei thawelu. Gallai goroeswyr cam-drin sydd hefo ffonau cudd gael eu rhoi mewn perygl os caiff y ddyfais ei darganfod.
Gallwch optio allan yn rhan ‘settings’ eich ffôn i warchod eich diogelwch chi:
iPhone: Chwiliwch am “Rhybudd argyfwng ” yn y gosodiadau → Diffoddwch rybuddion Difrifol ac Argyfwng
Android: Chwiliwch am “Rhybuddion argyfwng” yn y gosodiadau → Diffoddwch rybuddion Difrifol ac Argyfwng (a chategorïau bygythiad eraill os yn cael eu rhestru)
Mwy o wybodaeth: Am Rybuddion Argyfwng – GOV.UK