Grŵp Cynefin yn Dathlu Buddugoliaeth Ddwbl yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru
Mae Grŵp Cynefin, yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr nodedig yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025, a gynhaliwyd nos Fercher (25-06-25) yn y Leonardo Hotel yng Nghaerdydd.
Enillodd Prosiect Actif Sir Ddinbych, a gyflwynwyd mewn partneriaeth ag Actif Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, y wobr yn y categori “Ymgysylltu â Thenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol”.
Mae’r prosiect yn amlygu grym cydweithio a gweithredu dan arweiniad cymunedau wrth greu mannau gwyrddach a mwy cysylltiedig.
Enillodd Gwibdeithiau Costau Byw 2024 Grŵp Cynefin y wobr am “Rhaglen Cefnogi/Cynghori Preswylwyr”, gan gydnabod pwysigrwydd cefnogaeth glir, onest ac ymarferol i denantiaid mewn cyfnodau heriol.
“Rydym yn hynod falch o’n tîm Mentrau Cymunedol, sydd y tu ôl i’r ddau brosiect,” meddai Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl.
“Mae’r gwobrau hyn yn dyst i angerdd, creadigrwydd ac ymrwymiad ein staff a’n partneriaid. Maent yn brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau a’n hamgylchedd.”
Caption: Bethan, Elain a Meg o Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin yn dathlu’r ddwy wobr.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag Awel.Morris@grwpcynefin.org