Grŵp Cynefin yn annog cyfeillgarwch a sgwrs yn Ninbych

Annog sgwrs, cysylltiad a chyfeillgarwch rhwng pobol o bob oed. Dyna yw bwriad cynllun arbennig yn nhref Dinbych, sef ‘Meinciau Cyfeillgar Dinbych’.

Cymdeithas dai Grŵp Cynefin a Chymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych sy’n cydweithio ar y prosiect arbennig hwn.

Mae’n cynnwys gweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol i greu cyfres o feinciau lliwgar a thrawiadol y gall pobl eu hadnabod fel rhywle i gysylltu hefo’i gilydd, rhywle y gall pobol fynd am sgwrs a chreu ‘gofod’ i annog siarad a chysylltiad rhwng pobol. Yn ddelfrydol, byddai’r ymwneud hwnnw yn cynnwys sgyrsiau rhwng  pobol o bob oed  – gan annog cyfeillgarwch ar draws y cenedlaethau a lleihau unigrwydd

Mae’r cynllun i drawsnewid meinciau Dinbych fel hyn ar waith ers blwyddyn bellach gyda phum mainc wedi neu yn y broses o gael eu trawsnewid fel rhan o’r prosiect, gydag artist gwahanol lleol yn cyd-weithio â gwahanol grwpiau neu ysgolion lleol a thema wahanol i bob mainc.

Ariannir y prosiect gan Grŵp Cynefin, Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych a derbyniwyd grantiau gan DVSC a Chyngor Tref Dinbych.

Am fwy o wybodaeth am y meinciau unigol ewch yma 

I drefnu cyfweliadau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda mari.williams@grwpcynefin.org

Cookie Settings