Mae Grŵp Cynefin a Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn cydweithio ar brosiect arbennig ‘Meinciau Cyfeillgar Dinbych’.

Mae’r bartneriaeth yn golygu cydweithio gyda artistiaid lleol i drawsnewid meinciau yn nhref Dinbych. Y syniad yw creu mannau cymdeithasol ble bydd pobl yn adnabod y meinciau fel rhywle i gysylltu hefo’i gilydd – gan annog cyfeillgarwch ar draws y cenedlaethau a lleihau unigrwydd.

Mae pum mainc wedi neu yn y broses o gael eu trawsnewid fel rhan o’r prosiect, gydag artist gwahanol lleol yn cyd-weithio â gwahanol grwpiau neu ysgolion lleol a thema wahanol i bob mainc.

Onid ydyn nhw’n edrych yn anhygoel?!

Ariannir y prosiect gan Grŵp Cynefin, Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych a derbyniwyd grantiau gan DVSC a Chyngor Tref Dinbych – rydyn ni’n ddiolchgar iawn o’u cefnogaeth.

Mainc 1

Artist: Eleri Jones 

Grŵp: 11 ysgol gynradd lleol yn ardal Dinbych

Lleoliad y fainc: Awel y Dyffryn, Dinbych

Dyma’r fainc gyntaf i’w chreu fel rhan o’r prosiect. Bu’r artist Eleri Jones yn cyd-weithio hefo disgyblion o 11 ysgol gynradd lleol yn archwilio pobl, diwylliant a threftadaeth Dinbych. Crëwyd delweddau o arwyr lleol yr ardal megis Twm o’r Nant, Orig Williams a Kate Roberts a pheintiwyd rhain ar y fainc ynghŷd a’u henwau.

Cafodd y fainc ei pheintio ar faes Eisteddfod yr Urdd, Dinbych 2022 gydag Eleri yn cael ei hysbrydoli hefyd gan bobl yn pasio ar y maes er mwyn gorffen gydag ychwanegiadau bywiog.

 

Mainc 2

Artist: Rhi Moxon

Grŵp: Criw Celf HWB Dinbych

Lleoliad y fainc: Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych

Mainc 3

Artist: Tara Dean

Grŵp: Disgyblion Ysgol Twm o’r Nant a trigolion Awel y Dyffryn

Lleoliad y fainc: Ffordd Llandyrnog, Dinbych

Cynhaliwyd sesiwn trafod gyda’r artist Tara Dean, disgyblion Ysgol Twm o’r Nant a thrigolion Cynllun Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin, Awel y Dyffryn yn Ninbych. Roedd yn sesiwn hel syniadau tra’n pontio’r cenedlaethau.

Dywedodd yr artist Tara Dean
“Cawsom gymaint o syniadau am Ddinbych a’i le yn Nyffryn Clwyd. Roedd yr haul a’r machlud dros Fryniau Clwyd yn gymaint o sylw yng nghynlluniau pawb. Roedd syniadau eraill yn cynnwys tai’r dref, y clwb pêl-droed, y parc sglefrio, Castell Dinbych, enfys, cennin pedr, ‘Forget me nots’, Pabi a fflagiau!

Wrth ddisgrifio Dinbych a’i lle yn y tirwedd, tyfodd y dyluniad terfynol o’r syniad o weithio gyda sylfaen o dri lliw – melyn, gwyrdd a glas a gwau popeth i’r patrwm gyda’r gobaith y bydd pobl yn eistedd ar y fainc ac yn trin a thrafod y gwahanol elfennau.

Mae wedi bod yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono ac yn ysbrydoliaeth  i weithio gyda disgyblion blwyddyn 6 a phawb yn Awel Y Dyffryn”

Mainc 4

Artist: Georgina Haf Robertshaw

Grŵp: Grŵp Forget me not Dinbych

Lleoliad y fainc: Ffordd Brwcws, ar bwys afon Ystrad, Dinbych

Mainc 5

Artist: Chloe Dymond

Grŵp: Disgyblion Ysgol Pendref

Lleoliad y fainc: Stryd Henllan ger Eglwys y Santes Fair, Dinbych

Bu Chloe yr artist yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Pendref yn Ninbych ar y fainc yma sydd wedi ei lleoli ar waelod Stryd Henllan ger Eglwys y Santes Fair, Dinbych.

“Roedd yn bleser pur cael gweithio ar brosiect meinciau cyfeillgar Dinbych gyda Grŵp Cynefin ac Ysgol Pendref.

Fe dreuliodd y myfyrwyr ysgol a minnau amser gyda’n gilydd a thrafod beth roedden nhw’n teimlo oedd Dinbych yn ei olygu iddyn nhw a sut roedden nhw am i’r fainc edrych yn y gymuned. Y teimlad  cyffredinol oedd y dylai fod ‘yn Gymraeg, yn ‘Dinbych’ ac yn groesawgar’. Dwi’n gobeithio bydd fy nyluniad yn cyrraedd disgwyliadau’r plant.

Roedd dylunio a pheintio’r fainc yn brofiad gwych, roedd gallu siarad â phobl leol wrth beintio yn profi gall mainc gynnes a chroesawgar sbarduno sgwrs a gobeithio bydd yn parhau i wneud hynny.”

Cookie Settings