Grŵp Cynefin yn addunedu i ddyfodol gwyrdd

Grŵp Cynefin yn addunedu i ddyfodol gwyrdd

Mae Grŵp Cynefin wedi addunedu i leihau allyriadau carbon o 4% bod blwyddyn hyd at gyflawni sero net* erbyn y flwyddyn 2044.

Fe gyhoeddon nhw hyn ar ddiwrnod cynta’ Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych 2022, gyda diwrnod cyfan o weithgareddau ‘gwyrdd’ ar eu huned ar y maes.

Heddiw (Dydd Llun, Mai 30) bydd plant yn cael eu gwahodd i blannu llysiau a pherlysiau mewn potiau sy’n pydru i’r tir ar ôl eu plannu. Bydd arddangosfa coginio gyda chynhwysion lleol, rhad a bydd wardeiniaid ynni’r grwp ar gael i gynghori pobl ynglŷn a sut i arbed ynni ac arian trwy newidiadau bach o gwmpas y tŷ.

Mae’r rhain i gyd yn cyd-fynd gyda’r adduned sy’n rhan o strategaeth cynaliadwyedd newydd Grŵp Cynefin. Yn ogystal â lleihau’r allyriadau o 4% o flwyddyn i flwyddyn a chyflawni sero net* erbyn 2044, mae’r strategaeth hefyd yn anelu i gyflawni’r canlynol:

  • Datblygu cynllun ‘retrofit’ ar gyfer eu cartrefi presennol
  • Adeiladu cartrefi newydd i safon carbon isel neu ddi-garbon
  • Datblygu eu rhaglen Wardeiniaid Ynni i gynorthwyo a chynghori tenantiaid ar y daith i sero net
  • Lleihau allyriadau fflyd drwy newid i gerbydau allyriadau isel neu ddim allyriadau o gwbl
  • Polisi gweithio hyblyg i gwtogi ar filltiroedd staff ac allyriadau yn y gweithle
  • Buddsoddi mewn sgiliau a llythrennedd carbon i staff a chwsmeriaid
  • Cyflwyno goleuadau LED a mesuryddion clyfar
  • Ceisio gosod ynni adnewyddadwy ar-safle yn eu swyddfeydd a safleoedd gweithredu eraill

Meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr  Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin: “Mae’r rhain yn dargedau uchelgeisiol ond yn rhai y byddwn yn gwthio i’w cyflawni .

“Mae’n hollbwysig bod cymdeithasau tai yn dangos ymroddiad ac esiampl ar y daith i ddad-garboneiddio. Pa le gwell na Eisteddfod yr Urdd, sy’n ddathliad o’r  genhedlaeth ifanc a’r dyfodol i wneud ein adduned fel grŵp?”

Mae Grŵp Cynefin  yn..

  • Rheoli mwy na 4100 o unedau tai i’w rhentu ar draws saith sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys
  • Datblygu cartrefi o bob math mewn ymateb i anghenion lleol: ar gyfer teuluoedd, pobl sengl, pobl hyn a phersonau bregus ag anghenion cefnogaeth
  • Yn ychwanegol i’r unedau sydd yn cael eu rheoli, efo benthyciadau neu ecwiti mewn mwy na 800 o dai marchnad ganolraddol ar gyfer pobl sy’n methu prynu cartref addas ar y farchnad agored.

[* allyriadau cwmpas 1 a 2]

I drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07834845512

neu dewch i uned Grŵp Cynefin ar y maes eisteddfod.

Cookie Settings