Holi am farn leol i lunio dyfodol tai ym Mae Trearddur, Môn
Ydych chi’n byw yn neu o gwmpas Bae Trearddur?
Mae Grŵp Cynefin yn annog trigolion a’r rhai sydd â chysylltiad lleol â Bae Trearddur a’r cymunedau cyfagos i gymryd rhan mewn holiadur newydd am anghenion tai. Maen nhw yn awyddus yn benodol i glywed gan bobol fyddai a diddordeb mewn byw yn yr ardal, trwy rentu neu brynu tŷ newydd petai rhai ar gael.
Mae’r arolwg yn rhan o ymrwymiad parhaus Grŵp Cynefin i gefnogi cymunedau cynaliadwy a bywiog ledled gogledd Cymru. Trwy gasglu barn leol, mae’r gymdeithas dai yn gobeithio deall anghenion tai presennol a fydd yn ei dro yn llywio unrhyw cynlluniau a datblygiadau posib ar gyfer yr ardal.
“Mae hyn yn ymwneud â gwrando ar leisiau lleol,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin.
“Bydd yr holiadur yma yn ein helpu i ddeall beth mae pobl ei angen a ble gallwn wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n clywed ar goedd bod pobl yn symud o’r ardal oherwydd nad ydyn nhw yn gallu fforddio rhentu neu brynu yn lleol, er eu bod o bosib wedi eu geni a’u magu yn yr ardal honno. Mae’n bwysig bod gwybodaeth ffeithiol gennym ni ynglŷn a’r galw am dai a pha fath o dai cyn edrych ar sut gallwn ni helpu, a mynd ati i gynllunio.”
Mae’r holiadur ar agor i unrhyw un sydd â chysylltiad â Bae Trearddur, gan gynnwys y rhai sy’n byw, yn gweithio neu â theulu yn yr ardal. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i’w gwblhau, a bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol yn unol â GDPR y DU.
Gallwch ei ateb yma: Holiadur Anghenion Tai Bae Trearddur
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305