Gweithdai Mapio Taith y Cwsmer

Mae Grŵp Cynefin yn gweithio gyda Prodo i gyflwyno rhaglen o weithdai Mapio Taith y Cwsmer.
Beth yw Mapio Taith y Cwsmer?
Mae mapio taith y cwsmer yn ffordd o ddeall a gwella sut mae cwsmeriaid yn profi gwasanaeth. Mae’n dangos y camau maen nhw’n eu cymryd — o’r cyswllt cyntaf hyd at ar ôl iddyn nhw ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae’n helpu i nodi’r mannau problemus ac i wneud y daith yn fwy llyfn a boddhaol.
Hoffem wahodd tenantiaid i gymryd rhan mewn cymaint o’r gweithdai hyn â phosibl, ac rydym yn gobeithio y gallwch ein helpu i sicrhau bod gwasanaethau Grŵp Cynefin yn adlewyrchu beth rydych chi, fel tenantiaid, ei eisiau ac ei angen.
Yn anffodus, mae’r amserlen yn dynn iawn ac o ganlyniad mae’r gweithdai’n cael eu cynnal dros gyfnod byr iawn (gweler isod).
Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn Swyddfa Dinbych Grŵp Cynefin (Tŷ John Glyn, 54 Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3BW), ond gellir trefnu cludiant i unrhyw un sydd am gymryd rhan, yn ogystal â lluniaeth a chinio.
Cwblhewch y ffurflen gan nodi pa sesiynau y gallwch (neu na allwch) eu mynychu erbyn dydd Gwener 26ain Medi.