Cadw yn saff ar-lein

Fel rhan o’n ymgyrch cadw’n ddiogel ar-lein, rydym yn eich annog i amddiffyn eich hun a’ch aelwyd i gadw yn saff ar-lein.

Mae sgamiau dyddiau yma mor ‘real’ mae’n ofnadwy o hawdd cael eich twyllo. Ond maen ‘na rai arwyddion:

Sut i adnabod sgam? 

Gall fod yn sgam os:

  • Mae’n rhy dda i fod yn wir – e.e gwyliau sy’n llawer rhatach nag arfer
  • rhywun nad ydych yn eu hadnabod yn cysylltu â chi yn annisgwyl
  • dydyn nhw ddim yn edrych fel cwmni go iawn – e.e dim  cyfeiriad post
  • Gofyn i chi anfon arian yn gyflym
  • Cais i dal swm o arian mewn ffordd amheus – e.e trwy dalebau iTunes neu drwy wasanaeth trosglwyddo fel MoneyGram neu Western Union
  • Gofyn am wybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu rifau PIN
  • Dim cadarnhad ysgrifenedig o’r hyn gytunwyd

Cliciwch yma i fynd ar wefan Cyngor am Bopeth i weld be i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich sgamio, sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau a gwybodaeth am y sgamiau mwyaf diweddar.

Seibr Ddiogelwch

Dilynwch y camau syml a ymarferol gan Gynllun Gweithredu Cyber Aware y Ganolfan Genedlaethol Seibrddiogelwch.

Ewch i’r ddolen isod i ddysgu sut i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

https://www.ncsc.gov.uk/cyberaware/actionplan/individuals-and-families

Cookie Settings