Gwibdaith mis Medi 2025
Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymweld â chymunedau ar draws Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Caernarfon a’r ardaloedd cyfagos.
Cawsom sgyrsiau gwych, dosbarthwyd gwybodaeth ddefnyddiol, a chasglwyd adborth gwerthfawr gan denantiaid.Diolch i’ch mewnbwn, rydym wedi diweddaru manylion cyswllt, cofrestru mwy o denantiaid ar gyfer cyfathrebiadau e–bost, a derbyn dwsinau o arolwg wedi’u cwblhau gan gynnwys rhai rydym yn adrodd i Lywodraeth Cymru. Gwnaethom hefyd gyfeirio at dimau cymorth ar gyfer llesiant, cyngor ynni, cymorth digidol, a chyflogaeth. Hyd yn oed yn well, dangosodd llawer o denantiaid ddiddordeb mewn helpu i lunio gwasanaethau Grŵp Cynefin, o ymuno â phaneli recriwtio i helpu i ddylunio rhaglenni
cynnal a chadw yn y dyfodol.
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran, mae eich llais yn bwysig iawn.