Prif Weithredwr yn galw am ymateb brys i’r argyfwng tai

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i ymateb i’r argyfwng tai yn nghefn gwlad Cymru, rhag colli ewyllys da’r cymunedau hynny sy’n wynebu’r argyfwng.

Dyna oedd neges Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru ddydd Mercher yma, 9 Mawrth 2022.

Roedd Shan Lloyd Williams yn ymateb i adroddiad Dr Simon Brooks, Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru yng nghyfarfod Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth landlordiaid a grwpiau cymunedol y Senedd.

Croesawodd Shan Lloyd Williams argymhellion adroddiad Dr Brooks gan nodi bod Grŵp Cynefin wedi cymryd rhan allweddol wrth ymateb i ymgynghoriadau ers rhyddhau’r adroddiad yn ogystal. Ond lleisiodd ar angen am frys wrth ymateb i’r argyfwng tai.

“Angen mwy o gyflymder”

“Mae angen ychydig bach mwy o gyflymder o ran sut ydyn ni yn mynd i fod yn ymateb i’r argymhellion neu y peryg ydi y byddan ni wedi colli yr ewyllys da sydd o fewn cymunedau,” rhybuddiodd. “Mae’r cymunedau yn barod ac yn awyddus i weithio a gweld yr argymhellion yma yn cael eu symud ymlaen a gweld ein bod ni yn datblygu datrysiadau i’r problemau.

“Ar ben eu hunain, dydi’r datrysiadau ddim yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth, yn fy marn i, ond o’u cyfuno ee gyda’r datganiad diweddar am yr hawl i godi treth y cyngor i fyny i 300%. Ac mae angen cael pethau eraill mewn lle ar yr un pryd er mwyn gwneud gwir wahaniaeth.”

Fel brodor o Ben Llŷn, tynnodd hefyd ar ei phrofiad personol o fyw mewn ardal sydd wedi cael ei heffeithio, gan ddweud ei bod yn bersonol yn gallu gweld beth ydi’r effaith ar y gymuned ac ar yr iaith Gymraeg. Nododd ffactorau eraill sy’n golygu bod angen ystyriaeth arbennig wrth drafod adeiladu cartrefi i ymateb i’r argyfwng, gan gynnwys argaeledd a phrisiau tir. Soniodd hefyd ar yr her o ddenu contractwyr addas i ymgymryd a’r gwaith.

“Angen cyd-weithio hefo contractwyr bach”

“Does gan y cwmnïau adeiladu o’r maint sydd angen i ddatblygu tai ddim diddordeb mewn dod i ardaloedd cefn gwlad,” meddai. “Mae’r costau yn mynd i fod yn uwch a’u proffid yn mynd i fod yn llai. Mae angen cyd-weithio felly hefo contractwyr bach lleol a rhoi’r hyder iddyn nhw i fod yn tendro ac yn cyd-weithio yn well hefo’i gilydd.”

Gyda chostau adeiladu wedi cynyddu o ran deunyddiau a llafur – cost adeiladu cyffredinol medr sgwâr o £1900 i £2500 – mae cost adeiladu mewn ardaloedd gwledig wedi codi yn uwch eto.

“Angen ystyried ffactor ardaloedd gwledig hefyd”

Meddai Shan Lloyd Williams: “Fel sector, rydyn ni yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn barod wedi rhoi dosraniad hael tuag at adeiladu tai fforddiadwy ar draws Cymru. Ond dw i’n meddwl bod angen ystyried ffactor ardaloedd gwledig hefyd  uwchben y fformiwla sy’n cael ei defnyddio wrth ddatblygu tai.”

Cookie Settings