Y diweddaraf

Trefniadau’r Nadolig

23 Rhag 2025

Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff. Diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn. Oriau agor a chau: Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys […]

Partneriaethau’n Cefnogi Cymunedau Cyn y Nadolig

18 Rhag 2025

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn cydweithio â chontractwyr lleol, y partneriaid sy’n cydweithio i adeiladu tai fforddiadwy i bobl leol, i gefnogi prosiectau cymunedol cyn y Nadolig. Bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ar adeg heriol o’r flwyddyn.  Mae’r cyfraniadau yma’n rhan o ymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol yn yr ardaloedd lleol fel rhan o gytundebau datblygu.   Cyfrannodd un o’r partneriaid, Gareth Morris Construction, tuag at Fanc Bwyd […]

Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun yn Ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Genedlaethol

15 Rhag 2025

Mae llwyddiant cynllun tai gofal ychwanegol cymdeithas tai Grwp Cynefin wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol yng Ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru 2025. Enillodd prosiect uchelgeisiol i adnewyddu ac ehangu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun wobr led-led Cymru gan dderbyn canmoliaeth uchel am ei safonau rhagorol. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu dyluniad arloesol, ymrwymiad i ansawdd, ystyriaeth i amgylchedd a phobl a’r gwir ystyr o gydweithio oedd wrth galon y […]

Rhybuddion tywydd garw, Storm Bram

09 Rhag 2025

Gyda Storm Bram yn taro gyda glaw trwm, mae rhybudd melyn ar waith ar draws gogledd Cymru. Os ydych yn denant gyda Grŵp Cynefin ac mae angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. I adrodd am waith trwsio nad yw’n fater brys, cysylltwch â ni yma. Rhifau defnyddiol: Mewn argyfwng: 999 Dim […]

Beth arall sy'n newydd?

Tai Gofal Ychwanegol

Cookie Settings