Y diweddaraf

Cydnabyddiaeth cenedlaethol i Grŵp Cynefin am gynnwys tenantiaid ac am fenter gymunedol yn Ninbych

18 Meh 2026

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith yn rhoi tenantiaid wrth wraidd eu gwasanaethau, ac am fenter gymunedol gyffrous yn Ninbych. Mae seremoni  wobrwyo flynyddol TPAS, a gynhaliwyd eleni yng Nghaerdydd (17/06/26) , yn gwobrwyo arfer da ymysg cymdeithasau tai Cymru, yn benodol am gynnwys tenantiaid a chymunedau yn eu gwaith bob dydd ac o ran siapio eu gwasanaethau.   Daeth y wobr […]

Ymgysylltu gwych ar Wibdaith Grŵp Cynefin

03 Meh 2026

Bu Grŵp Cynefin ar daith i ymgysylltu gyda thenantiaid ar draws cymunedau yng Ngwynedd ym Mai, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i wrando ac ymateb yn uniongyrchol.  Cafodd y daith ei chryfhau ymhellach drwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol yn ymuno â’r ymweliadau i ymgysylltu â phreswylwyr a chefnogi diogelwch cymunedol.  Yn ystod yr […]

Pum Cymdeithas Dai yn Cefnogi Eisteddfod yr Urdd

14 Mai 2026

Mae pump o gymdeithasau tai y gogledd – Adra, Cartrefi Conwy, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru wedi dod ynghyd i hybu pwysigrwydd cymuned a diwylliant Cymru yn yr Eisteddfod yr Urdd eleni – a gynhelir ar 23-29 Mai ar Faes Sioe Amaethyddol Ynys Môn.  Mae prif gymdeithasau tai y gogledd yn awyddus iawn […]

Cryfhau’r Tîm Tai gydag arweinyddiaeth newydd a chynllun recriwtio

24 Maw 2026

Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi newidiadau cyffrous o fewn ei Adran Tai, gyda phenodiadau arweinyddiaeth newydd a chamau i gryfhau’r tîm sy’n gyfrifol am gefnogi tenantiaid a chynnal tenantiaethau.  Mae Grŵp Cynefin yn berchen ar dros 5,000 o gartrefi, gyda mwy na 10,000 o denantiaid ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys.   Mae’r sefydliad wedi penodi Rhiannon Dafydd yn Bennaeth Tai newydd, gan ddod â ffocws clir ac egni ffres o gylch cefnogi tenantiaid, atal ôl-ddyledion a helpu pobl i gynnal cartrefi diogel a sefydlog. Yn ogystal â hyn, mae Awel Morris wedi camu i rôl o Arweinydd y Tîm Lles Ariannol, gan helpu i lunio dulliau effeithiol o gasglu incwm gan ganolbwyntio ar y person a chefnogi tenantiaethau.  Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin hefyd yn recriwtio tri Swyddog Casglu Incwm i ymuno â’r tîm. Mae’r swyddi wedi’u lleoli yn swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Y Bala, Dinbych a Phenygroes ger Caernarfon. Mae dwy swydd amser llawn ac un swydd rhan-amser ar gael.  Dywedodd Rhiannon Dafydd, Pennaeth […]

Beth arall sy'n newydd?

Tai Gofal Ychwanegol

Cookie Settings