Beth sy'n newydd i denantiaid?
Mae'r adran newydd sbon yma yn arbennig ar gyfer tenantiaid Grŵp Cynefin. Newyddion, cyngor, gwybodaeth a mwy - mewn un lle!
Beth sy'n newydd?Swyddi
Oes gennych chi ddiddordeb gweithio yn y maes tai? Mae Grŵp Cynefin yn lle delfrydol i ddechrau gyrfa neu i newid gyrfa iddo. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd gwaith arbennig a thelerau ac amodau neilltuol o dda, mewn amrywiaeth o feysydd. Dewch i weld swyddi diweddaraf y grŵp yma...
SwyddiTamprwydd a Llwydni
Os ydych yn denant i Grŵp Cynefin ac mae gennych damprwydd neu lwydni yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu gyda ni. Gorau po gynta’ i ni gael gwybod er mwyn cael trin y broblem. Mae yna rai pethau y gallwn ni gyd eu gwneud i atal tamprwydd a llwydni yn ein cartref. Cymrwch gip ar ein fideo yn egluro sut i atal cyddwysiad, tamprwydd a llwydni.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth positif i fywydau a chymunedau
Y diweddaraf
Ffrwd Facebook
Read about how Grwp Cynefin in partnership with Welsh Government and Cyngor Gwynedd, is tackling the housing crisis by bringing empty properties back to life as family homes. “I was homeless and living in short-term accommodation,” says Mia. “It’s nice knowing I don’t need to move again with the little one, we’re just happy here. We feel happy and safe.” Read more here... https://www.grwpcynefin.org/en/2024/02/28/grwp-cynefin-working-with-cyngor-gwynedd-to-turn-empty-buildings-into-homes/ #morethanhousing #housing #homelessness #housingcrisis #housingwales #WelshGovernment
Darllenwch sut mae Grwp Cynefin yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyngor Gwynedd i adfywio adeiladau segur i daclo'r argyfwng tai. “Ro’n i’n ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro i’r digartref,” meddai Mia. "Mae’n braf gwybod nad oes ‘na angen i mi symud eto hefo’r bychan, rydan ni mor hapus yma. Mae’n braf, a saff."