Cuddio'r dudalen yma

Rydym ni eisiau gweld cymuned ble mae pawb yn cael yr un chwarae teg ac yn cael eu trin yn gyfartal.

Dyna pam ein bod ni yn benderfynol o wneud ein gorau i leihau anghydraddoldeb ac i hybu llesiant a diogelwch o fewn ein cymunedau.

Gorwel – yn cynnig cefnogaeth a mwy

Mae Gorwel yn rhan o Gymdeithas Tai Grŵp Cynefin ac rydym yn cefnogi pobl a theuluoedd sy’n cael amser anodd.

Mae rhai yn goroesi cam-drin domestig, ac mae eraill yn delio â sefyllfaoedd neu brofiadau a allai olygu eu bod yn colli eu cartref. Mae rhai pobl yn denantiaid i Grŵp Cynefin ac eraill ddim.

Ar hyn o bryd mae tua 65 ohonom yn gweithio i Gorwel a phob wythnos rydym yn cefnogi tua 625 o bobl ar draws Gwynedd, Ynys Môn ac Sir Ddinbych.

mam yn gafael mewn plentyn gyda'r haul tu ola

Gwefan Gorwel

Am fwy o wybodaeth am waith Gorwel, ewch i’r wefan

 

awyr las gydag enfys ar draws hanner y llun

Angen cuddio’r dudalen?

Os ydych chi angen cuddio’r dudalen yma yn sydyn, cliciwch ar y blwch pinc
“Mae fy ngweithiwr cefnogi wedi fy helpu gyda fy nheimladau. Mae hi wedi fy helpu i sefyll drosof fy hun. Mae hi wedi fy helpu i fod yn fwy tawel. Mae hi wedi fy helpu i ymdopi â phobl sy’n gas.”

Gwasanaeth trais yn y cartref plant a phobl ifanc Gwynedd a Môn

Does dim geiriau i ddisgrifio’r cymorth rydw i wedi’i gael. Wnaethon nhw jysd gwrando. Dydy hyn heb ddigwyddodd erioed o’r blaen. Am 50 mlynedd fe wnaeth ddwyn popeth oddi wrthyf. Rwy’n 72 nawr ac rwy’n cael bywyd newydd.”

Cynllun Cefnogaeth Symudol Gwynedd a Môn

“Caring Dads forced me to consider the children and their needs rather than my own. Caring Dads educated and helped me realise that no one is to blame for my actions but myself –  how abusive and controlling I could be, so now I know not to be like the way I was.”

Cynllun Caring Dads

Cookie Settings