Credyd Cynhwysol

Ydych chi’n derbyn credydau treth? Os nad ydych wedi derbyn yn barod, mi fyddwch yn cael llythyr yn fuan gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gyda’r geiriau ‘Hysbysiad Ymfudo Credyd Cynhwysol’.

Gwnewch yn siwr bod logo CThEM (HMRC) ar y llythyr – mae hyn yn dangos mai hysbysiad swyddogol i hawlio Credyd Cynhwysol ydi o. Peidiwch â gwneud unrhyw beth nes i chi dderbyn y llythyr swyddogol yma – fel arall mi allech fod ar eich colled.

Wedi ei dderbyn, gallwch fynd ymlaen i hawlio’r credyd. Cysylltwch â’ch Swyddog Lles os oes angen help arnoch.

Cookie Settings