Mae’n amser cynnal arolwg o’ch cartref!

Mae ar Grŵp Cynefin angen cynnal arolwg o gyflwr eich cartref. Mae’n ofnadwy o bwysig ein bod yn gwneud hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynllunio a blaenoriaethu gwaith gwella ac adnewyddu. Rapleys ydi enw’r cwmni sy’n gwneud hyn ar ein rhan.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?

  • Cysylltu hefo cwmni Rapleys i drefnu amser cyfleus – 01480 371 460 a dewis opsiwn 1 i Grŵp Cynefin a gadael enw a rhif cyswllt – fe wnawn nhw ffonio’n ôl.
  • Gadael swyddog Rapleys i mewn i’r tŷ ar yr amser drefnwyd
  • Bydd angen iddyn nhw weld tu mewn y tŷ i gyd, unrhyw adeiladau tu allan a’r atig
  • Does dim angen symud dodrefn nac chodi carpedi
  • Dim ond 45 munud fydd angen ar y mwya’

 Beth fydd Rapleys a Grŵp Cynefin yn ei wneud?

  • Treulio dim mwy na 45 munud yn eich cartref
  • Tynnu lluniau o’r adeilad ar i-pad
  • Fyddwn ni ddim yn tynnu lluniau o bobol
  • Dim ond y staff angenrheidiol fydd yn gweld y lluniau
  • Defnyddio’r wybodaeth i gynllunio gwaith i wella eich cartref

Dim ond yr arolwg cyflwr mae Rapleys yn gyfrifol amdano. Os oes angen unrhyw beth arall arnoch, er enghraifft gwneud cais am waith trwsio neu ganiatâd i wneud addasiadau, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122.

Does ond angen i chi wneud dau beth!

  • Ffonio Rapleys ar 01480 371 460 a dewis opsiwn 1 i Grŵp Cynefin a gadael enw a rhif cyswllt – fe wnawn nhw ffonio’n ôl.
  • Bod adre am 45 munud ar yr amser drefnwyd

 

Cookie Settings