Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023

Adroddiad Blynyddol 2022-2023

Lawrlwythwch gopi yma

Dogfennau perfformiad

Os ydych chi eisiau copi o ddogfennau blaenorol, mae croeso i chi gysylltu â Cyswllt Cynefin

Mae’n adroddiadau blynyddol yn dangos y cynnydd a wnaethom dros y flwyddyn tuag at gyflawni ein nodau ac amcanion strategol.

Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023

Adroddiad Blynyddol 2021-2022

Adroddiad Blynyddol 2020-2021

 

Cymrwch olwg ar ein crynodeb o’n hunanwerthusiad 2022 isod.

Hunanwerthusiad

Mae’r cynllun corfforaethol yn egluro’r math o sefydliad rydym eisiau bod, ac wedi gosod blaenoriaethau i’w gweithredu dros gyfnod o 5 mlynedd. Gallwch lawrlwytho Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 yma

Gelwir y blaenoriaethau yma’n ‘nodau strategol’, ac mae nodau strategol Grŵp Cynefin yn cynnwys:

1. Cartrefi o Safon: Byddwn yn darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel sydd yn diwallu anghenion lleol

2. Gwasanaethau Rhagorol: Byddwn yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn gyson ar draws y grŵp

3. Gwella Bywydau: Byddwn yn darparu cymorth a chyfleoedd i bobl

4. Cynnal Cymunedau: Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol a byddwn yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol

5. Twf Cadarn a Chynaliadwy: Byddwn yn arddangos yr arferion arweinyddiaeth, llywodraethu a rheolaeth gorau fel grŵp
Darllenwch Crynodeb o Gynllun Corfforaethol Grŵp Cynefin 2019-24 isod

Cynllun Corfforaethol 2019-2024

Mae Grŵp Cynefin yn Landlord Cymdeithasol Cofresterdig, a mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein Rheoleiddio gan Tîm Rheoleiddio Tai, Llywodraethu Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud â gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol.

Yn flynyddol, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, bydd Grŵp Cynefin yn cynnal hunan-asesiad o’n gweithgareddau er mwyn dangos sut rydym yn cwrdd a’r canllawiau perthnasol. Bydd yr hunan-asesiad yma wedyn yn cael ei rannu gyda Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sydd yn herio’r cynnwys ag yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Canlyniad hyn yw adroddiad sy’n cael ei chyhoeddi gan Llywodraeth Cymru.

Dyfarniad Rheoleiddiol Mawrth 2023

Ymrwymiad Gwirfoddol

 

Dyma adroddiad diweddaraf Grŵp Cynefin ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Gender Pay Gap

 

Cookie Settings