Nodyn i denantiaid fflatiau neu gartrefi cysgodol:

Ydych chi yn cael problemau gyda symud o gwmpas? Oes gennych broblem symud dros-dro oherwydd anaf neu gyflwr mwy hir-dymor? Mae’n bwysig eich bod yn gadael i Grŵp Cynefin wybod. Gallai effeithio ar eich gallu i adael eich cartref mewn argyfwng.

Dywedwch wrthon ni. Mi allwn weithio hefo chi i greu cynllun dianc mewn argyfwng  ar eich cyfer chi.

Cysylltwch â ni.

 

Diogelwch Tân

Rydym eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod eich cartref mor ddiogel rhag tân â phosibl. Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau da a chyngor i’ch helpu i gadw’n ddiogel yn eich cartref, ac osgoi tân yn y cartref.

Diogelwch Nwy

Rydym yn ei gwneud yn brif flaenoriaeth i gadw’r offer nwy yr ydym yn eu gosod yn eich cartref mewn cyflwr diogel a gweithiol bob amser.

Diogelwch Trydanol

Un swydd bwysig sydd gennym ni fel eich landlord yw sicrhau bod gosodiadau trydanol a gwifrau yn eich cartref yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr diogel.

Diogelwch Asbestos

Pan fo asbestos mewn cyflwr da a heb ei ddifrodi nid yw’n berygl. Darganfyddwch sut rydyn ni’n rheoli asbestos a beth rydych chi’n ei wneud i gadw’ch hun yn ddiogel.

Diogelwch Dŵr

Weithiau gall dŵr gynnwys bacteria niweidiol o’r enw Legionella. Mae cadw eich cyflenwad dŵr yn ffres yn atal y bacteria hwn rhag cronni ac achosi salwch clefyd y llengfilwyr.

Offer Codi

Ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw lifftiau mewn mannau cymunedol yn ddiogel i’w defnyddio. Rydym yn cynnal archwiliadau ac archwiliadau cyfnodol i sicrhau bod y lifftiau hynny’n gweithredu’n ddiogel.

Tamprwydd a Llwydni

Diogelwch Radon

Diogelwch Peiriannau Sychu Dillad

Cookie Settings