Tîm Lles

Mae’r Tîm Lles yma i’ch helpu chi gydag unrhyw bryder ariannol. Cysylltwch â ni i weld os gallwn eich helpu chi i hawlio incwm ychwanegol – fel cymorth at gostau treth cyngor, cinio ysgol plant neu gredyd pensiwn.

Cysylltwch â ni ar 0300 111 2122 / post@grwpcynefin.org

Cysylltu â ni

 

Helpwr Arian

Rheoli eich arian mewn cyfnod ansicr

Mae’r pandemig a’r costau byw cynyddol wedi gadael llawer o bobl hefo pryderon newydd am arian.

Os ydych chi wedi cael eich synnu gan filiau a thaliadau uwch, incwm ansicr neu golli swydd, gall ‘Helpwr Arian’ eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddod a phethau yn ôl i drefn.

www.moneyhelper.org.uk

 

CEFNOGAETH TUAG AT COSTAU YNNI

Gallech gael £150 oddi ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2022 i 2023 o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi – mae’n ostyngiad untro ar eich bil trydan, rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023.

Efallai y gallwch gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle’ch bil trydan os yw’ch cyflenwr yn rhoi nwy a thrydan ichi a’ch bod chi’n gymwys. Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956, gallech gael rhwng £250 a £600 i helpu i dalu eich biliau gwresogi.

Bydd y swm a gewch hefyd yn cynnwys Taliad Costau Byw i Bensiynwr, sydd rhwng £150 a £300. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw Daliad Costau Byw a gewch.

Byddwch yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig (nid oes angen i chi wneud cais amdano) os ydych yn gymwys ac yn cael naill ai Pensiwn y Wladwriaeth neu’n cael budd-dal nawdd cymdeithasol arall.

Darganfyddwch fwy yma.

Os ydych ar fudd-dal cymwys rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023 gallwch gael £200 tuag at dalu eich biliau tanwydd y gaeaf hwn.

Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf a gynigir gan Lywodraeth y DU, ond mae angen ichi wneud cais amdano.

Darganfyddwch fwy yma.

Bydd pob cartref yn y DU yn cael un taliad o £400 i helpu gyda chostau biliau ynni.

Bydd cwsmeriaid sydd yn talu trwy debyd uniongyrchol a chredyd yn cael yr arian yn eu cyfrif, a bydd arian y rhai sydd ar fesurydd yn cael ei roi ar eu mesurydd neu’n cael ei dalu trwy daleb.

Os nad ydych wedi hawlio’ch talebau eto – gwnewch hynny! Cysylltwch â’ch cyflenwr a fydd yn dweud wrthych ble i’w hawlio, e.e cangen Swyddfa’r Post neu siop PayPoint.

Darganfyddwch fwy yma.

Mwy o gyngor ar sut i arbed dŵr ac hefyd y cymorth sydd ar gael i chi, ar wefan Dŵr Cymru yma

CEFNOGAETH COSTAU BYW

Efallai y gallwch gael taliad i helpu gyda chostau byw os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol.

Os ydych yn gymwys, gallwch gael £650 wedi’i dalu mewn 2 lwmp swm o £326 a £324 os ydych yn cael taliadau o unrhyw un o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Mwy o wybodaeth yma

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw’n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu’r unigolyn yn symud iddo.

Mwy o wybodaeth yma

I bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill, gallwch gael ‘tariffau cymdeithasol’ sef pecynnau band eang a ffôn rhatach.

Maen nhw’n cael eu darparu yn yr un ffordd â phecynnau arferol, ond am bris is.

• Mae’r prisiau presennol yn amrywio o £10 i £20
• Byddwch chi’n talu bron i ddim byd mewn costau gosod
• Nid yw’n costio dim i adael y tariff

Am fwy o wybodaeth am y pecynnau rhatach a sut i wneud cais am un – ewch ar wefan Ofcom.

Mae gan Grŵp Cynefin ddwy grant sy’n cefnogi ein tenantiaid, cwsmeriaid a chymunedau.

Grant Cymunedol

Mae hwn yn gynllun grant hyd at £500 sydd ar gael i grwpiau o fewn ardal weithredol Grŵp Cynefin (chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys).

Mae’r grant ar gael i grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau lleol.

Mwy o wybodaeth yma.

Grant Camau i Gyflogaeth

Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Mwy o wybodaeth yma

Brecwast am ddim 

Mae’n bosibl y bydd gan eich plentyn neu blant hawl i gael brecwast am ddim, os yw’r ysgol yn darparu hyn. I ddarganfod a yw eich ysgol yn cynnig brecwast am ddim ac os yw eichh plentyn yn gymwys, siaradwch â’r ysgol yn uniongyrchol.

Mwy o wybodaeth yma.

Prydau Ysgol am ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy’n mynychu ysgol yn llawn amser yng Nghymru. I gael gwybod a oes gan eich plentyn neu blant hawl i brydau ysgol am ddim, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Mwy o wybodaeth yma.

Cymorth gyda costau gofal plant

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed cymwys sy’n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn.

Mwy o wybodaeth yma.

Cookie Settings