Beth yw’r grant Camau i Gyflogaeth?

Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi drwy eich cefnogi ar eich taith i gyflogaeth.

Dyma rai o’r pethau y gallech dalu amdanynt gyda’r grant:

  • Offer i helpu dechrau neu ddatblygu busnes eich hun
  • Gofal plant byr‐dymor i helpu chi weithio, hyfforddi neu astudio (amodau)
  • Deunyddiau cwrs a chostau cysylltiol
  • Beic neu drwydded bws i helpu chi gyrraedd gwaith
  • Dillad cyfweliad/ gwaith ar gyfer y cyfweliad holl bwysig neu swydd newydd
  • Costau teithio i gyfweliadau
  • Cyrsiau hyfforddiant a chymwysterau arbenigol

Gwybodaeth am y grant

  • Mae’r grant ar gyfer tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin ac aelodau teulu sy’n byw gyda’r tenant yn unig.
  • Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn
  • Bydd ôl‐ddyledion rhent a materion tenantiaeth eraill yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Bydd y materion sy’n cael eu hystyried yn dibynnu os ydy’r person sy’n gwneud cais yn denant neu’n aelod o deulu.
  • Ni fydd ymgeiswyr sydd wrthi’n rheoli eu hôl‐ddyledion rhent yn llwyddiannus o reidrwydd yn cael eu heithrio.

Cam 1

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais, ac mae un ar gael wrth:

  • Trwy lawrlwytho copi o’r wefan Ffurflen_Camau_i_Gyflogaeth_(C+S)
  • Ffonio’r Tîm Mentrau Cymunedol a gall aelod yrru ffurflen drwy’r post i chi
  • Yn ein swyddfeydd

Os hoffech gymorth i lenwi’r ffurflen gais, bydd aelod o’r Tîm Mentrau Cymunedol yn hapus i’ch helpu.

Cam 2

Dychwelwch y ffurflen wedi’i gwblhau i un o’n swyddfeydd, drwy’r post, neu dros e‐bost – byddwch angen cynnwys holl fanylion a phrisiau’r eitemau hoffech.

Cam 3

Byddwn yn asesu’ch cais ac yn gadael i chi wybod ein penderfyniad o fewn 4 wythnos.

Y swm grant uchaf y gallwch wneud cais amdano yw £300. Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail unigolyn.

Bydd sut rydych yn derbyn y grant yn dibynnu beth mae o ar gyfer e.e. ar gyfer eitemau megis cyrsiau hyfforddi neu offer, gallwn brynu’r rhain yn uniongyrchol i chi. Ar gyfer eitemau megis dillad, mi allwn ni roi taleb ar gyfer siop benodol neu mi allwn ni eich ad‐dalu os byddwch yn anfon y derbynebau atom.

  • Rhaid i chi wario’r arian ar yr eitemau sydd yn y cais
  • Bydd angen derbynebau arnom ni ar gyfer unrhyw eitemau a brynwyd i ddangos eich bod wedi gwario’r arian ar yr eitemau y gofynwyd amdanynt.
  • Bydd disgwyl i chi i ddangos i ni sut mae’r grant wedi helpu ac wedi gwneud gwahaniaeth i chi. Mi allwch wneud hyn naill ai mewn llythyr, sgwrs gydag aelod o staff Grŵp Cynefin, llun, fideo neu ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Os yn bosibl, bydd angen i chi gytuno y gallwn ddefnyddio eich grant at ddibenion cyhoeddusrwydd e.e. erthygl ar gyfer ein gwefan neu ein cylchlythyr tenantiaid ‐ Cysylltwch â ni os oes unrhyw broblem gyda hyn a gallwn drafod ymhellach.
  • Mae angen dychwelyd unrhyw arian heb ei wario atom.

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad yn ymwneud â’r grant, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol yn Grŵp Cynefin

0300 111 2122

Cyswllt Cynefin

 

Ffurflen gais grant Camau i Gyflogaeth

Lawrlwytho copi o’r ffurflen gais

 

Cookie Settings