Grant Cymunedol
Beth ydy Grant Cymunedol Grŵp Cynefin a pwy sy’n gallu gwneud cais?
Mae hwn yn gynllun grant hyd at £500 sydd ar gael i grwpiau o fewn ardal weithredol Grŵp Cynefin (chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys).
Gall grwpiau gwirfoddol, grwpiau cymunedol neu grwpiau o drigolion sy’n dymuno dod at ei gilydd yn yr ardal maen nhw’n byw ynddo wneud cais am grant.
Mae’r grant ar gael i grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau lleol. Does dim rhaid bod yn grŵp gyda chyfansoddiad.
Sut allwn ni helpu eich grŵp a’ch cymuned chi?
Rydym yn gallu ariannu prosiectau sy’n cyflawni un (neu fwy) o’r canlynol:
-
Gwella’r ardal mae’r grŵp yn byw ynddo
-
Trefnu digwyddiad i ddod â’r gymuned at ei gilydd
-
Cael pobl ifanc yn rhan o’r prosiect
-
Datblygu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc
-
Cynnwys yr holl gymuned
-
Gwella’r amgylchedd
-
Gwneud pobl yn fwy saff a diogel
-
Creu lle ar gyfer bywyd gwyllt
-
Gwella lles y gymuned trwy annog ffordd o fyw sy’n actif ac iach
-
Cynnwys pobl o bob oedran a galluoedd yn y gymuned
-
Hybu’r iaith Gymraeg
-
Ymateb i heriau yn dilyn Covid-19
-
Ymateb i heriau’r argyfwng costau byw
Beth sydd ddim yn gymwys ar gyfer cael grant?
Ni fedrwn ystyried ceisiadau:
-
Tuag at costau rhedeg
-
Tuag at brosiect ar ei ben ei hun/digwyddiad sy’n dechrau/am ddigwydd cyn cyfarfod y Panel Grantiau
-
Gan cwmnïau sy’n ceisio gwneud elw
-
Gan unigolion
-
Gan ysgolion ar gyfer gweithgareddau prif ffrwd a ddylai gael eu hariannu o ffynhonnell arall
-
Gan grwpiau ar gyfer gweithgareddau crefyddol
Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i geisiadau o fewn cymunedau lle mae gan Grŵp Cynefin bresenoldeb.
Beth ydy’r broses i wneud cais ac erbyn pryd sydd angen rhoi’r cais mewn?
Mae’r Panel Grantiau yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn a dylid cyflwyno ceisiadau erbyn
12pm ar 1af o Chwefror, Ebrill, Mehefin, Awst, Hydref, Rhagfyr.
Byddwn yn gadael i chi wybod a fu eich cais yn llwyddiannus ai peidio o fewn wythnos wedi i’r panel grantiau gyfarfod.
Nid yw grŵp yn gallu cyflwyno cais arall o fewn cyfnod o 12 mis e.e. os ystyrir cais ym mhanel grantiau mis Ebrill, ni fydd y cais nesaf yn cael ei ystyried tan y mis Ebrill canlynol.
plant bach yn cerdded lawr y bryn
Gwybodaeth bellach
Am gyngor neu i drafod os yw’ch prosiect yn gymwys, cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol
Plant ysgol leol yn cael diod yn Hafod y Gest
Ffurflen gais
Dyma ffurflen gais electroneg neu cysylltwch â Cyswllt Cynefin i gael copi yn y post.