Mi allwn ni eich cefogi a’ch arwain i hyfforddiant a chyflogaeth.

Rydym eisiau eich helpu fod yn barod at waith – boed hynny yn cael yr hyder i gamu i mewn i waith am y tro cyntaf, camu ymlaen yn eich gyrfa neu ar ôl seibiant gyrfa.

Gall ein Swyddog Hyfforddiant a Chyflogaeth:

  • Eich cefnogi i baratoi am gyfweliad swydd.
  • Eich cyfeirio at wybodaeth er mwyn cael cymorth ychwanegol 1-1 pwrpasol e.e Gyrfa Cymru, Grwp Llandrillo Menai.
  • Eich helpu i ateb cwestiynau mewn cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant llywodraethol.
  • Cynnig cymorth a syniadau i gwblhau cais am grant Camau i Gyflogaeth.

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Ieuan Davies:

0300 111 2122

 

Swyddog hyfforddiant a chyflogaeth wrth ddesg yn siarad gyda merch ifanc

Grant Camau i Gyflogaeth

Mae’r grant Camau i Gyflogaeth ar gael i roi cymorth i denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth Grŵp Cynefin i oresgyn rhwystrau yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Cookie Settings