Mae dau is-gwmni yn weithredol o dan ambarél Grŵp Cynefin.

Mae Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn gweithio i helpu pobl hŷn drwsio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi fel y gallant barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

mam yn gafael mewn plentyn gyda'r haul tu ola

Canllaw

Canllaw – cymorth i fyw’n annibynnol

Mae Canllaw (Eryri) Cyf yn un o is-gwmnïau Grŵp Cynefin sy’n rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn.

Nod Canllaw (Eryri) Cyf yw galluogi pobl hŷn a phobl ag anableddau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy drefnu addasiadau angenrheidiol a mân waith. Mae mwyafrif helaeth ein cleientiaid yn berchnogion tai preifat.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â:

Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn

0300 111 3333

enquiries@careandrepair.org.uk

Gwefan Canllaw

Oes gennych ddiddordeb bod yn aelod o Fwrdd Rheoli Canllaw?

Pecyn Gwybodaeth

Llun o gychod bach ar draeth gyda'r llanw wedi mynd allan

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Pwy ydym ni?

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain mewn gofod cysurus, cynnes a diogel.

Byddwn yn trefnu i’n Gweithiwr Achos / Swyddog Technegol ymweld â chi gartref i drafod eich gofynion a all gynnwys

  • budd-daliadau lles
  • gwresogi
  • addasiadau
  • cynnal a chadw ac atgyweirio eich eiddo

I gysylltu â ni:

0300 111 2120

post@gofalathrwsio.com

Gwefan Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

 

Cookie Settings