Awel y Coleg yn dathlu’r deg

Cafwyd tê parti yn Awel y Coleg, Y Bala i ddathlu eu penblwydd arbennig iawn yn 10 oed ym mis Tachwedd 2022.

I glywed mwy am Awel y Coleg cliciwch yma

Dathliadau Penblwydd Penucheldre yn 10 oed

Bu te parti ym Mhenucheldre, Caergybi i ddathlu Penblwydd y cynllun yn 10 oed ym mis Tachwedd 2022. Roedd yn gyfle i’r staff a thrigolion ddod at ei gilydd i fwynhau’r dathlu a chael pnawn o hwyl!

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022

Cynhaliwyd Cyfarfod eleni yn M-Sparc, Ynys Môn ym mis Medi. Roedd yn gyfarfod llwyddiannus dros ben ble rhannwyd ein Adroddiad Blynyddol am 2021-2022.

Y gwr gwadd oedd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan a roddodd gyflwyniad ar her y gaeaf caled sydd o’n blaenau o safbwynt yr argyfwng costau byw.

Cyfle i weld ein Adroddiad Blynyddol 2021-2022 yma

 

Cystadleuaeth Garddio 2022

Llongyfarchiadau mawr i’n enillwyr eleni

Categori 1 – Gardd Orau (Cydradd 1af): Eleri Owen, Henllan a Minffordd, Llangollen
Categori 2 – Gardd Newydd (Cydradd 1af): Sarah Williams, Wrexham a Marta Zaslona-Ciszkowicz, Botwnnog
Categori 3 – Potiau Patio/Ffenestri a Basgedi (Cydradd 1af): Delyth Beaumont, Ruthin a Sue hunter, Bermo
Categori 4 – Gardd Lysiau/Rhandir: Kevin Wyn Jones, Dyffryn Ardudwy

 

Gwobrau

Bu 2021-2022 yn flwyddyn o gydnabyddiaeth o waith rhagorol i Grŵp Cynefin. Dyma rai o’n llwyddiannau…

Gwibdaith 2022

Mae’r wibdaith flynyddol yn gyfle i staff ymgynghori â thenantiaid, cynnig cymorth a hyrwyddo ein gwasanaethau.

Dyma ychydig o luniau o’n teithiau dros yr Hâf o amgylch ein stadoedd…

Cookie Settings