Strategaeth Cynaliadwyedd

Wardeiniaid Ynni

Pedwar aelod staff wrth faner gyda'r geiriau 'Wardeiniaid Ynni' arni

Mae Grŵp Cynefin wedi addunedu i leihau allyriadau carbon o 4% bod blwyddyn hyd at gyflawni sero net* erbyn y flwyddyn 2044.

Mae’r rhain i gyd yn cyd-fynd gyda’r adduned sy’n rhan o strategaeth cynaliadwyedd newydd Grŵp Cynefin. Yn ogystal â lleihau’r allyriadau o 4% o flwyddyn i flwyddyn a chyflawni sero net* erbyn 2044, mae’r strategaeth hefyd yn anelu i gyflawni’r canlynol:

  • Datblygu cynllun ‘retrofit’ ar gyfer eu cartrefi presennol
  • Adeiladu cartrefi newydd i safon carbon isel neu ddi-garbon
  • Datblygu eu rhaglen Wardeiniaid Ynni i gynorthwyo a chynghori tenantiaid ar y daith i sero net
  • Lleihau allyriadau fflyd drwy newid i gerbydau allyriadau isel neu ddim allyriadau o gwbl
  • Polisi gweithio hyblyg i gwtogi ar filltiroedd staff ac allyriadau yn y gweithle
  • Buddsoddi mewn sgiliau a llythrennedd carbon i staff a chwsmeriaid
  • Cyflwyno goleuadau LED a mesuryddion clyfar
  • Ceisio gosod ynni adnewyddadwy ar-safle yn eu swyddfeydd a safleoedd gweithredu eraill

Cymerwch olwg ar Strategaeth Cynaliadwyedd Grŵp Cynefin isod

Strategaeth Cynaliadwyedd

 

Un o’n prif gynlluniau yw Wardeinaid Ynni – sy’n cynnig cyngor di-duedd ar arbed ynni.

Os ydych chi’n chwilio am ychydig o gymorth a chyngor i arbed arian, mi allwn ni eich helpu.

Mi allwn ni:

  • eich helpu i arbed ynni yn y cartref
  • esbonio biliau a thariffau i chi
  • eich cynorthwyo i wneud cais am grantiau perthnasol
  • Trefnu a chefnogi digwyddiadau cymunedol lleol
  • cynnig cefnogaeth gyda cheisiadau Nyth (sector breifat)
  • eich cyfeirio at asiantaethau 3ydd sector eraill pan nad ydym ni’n gallu helpu

Cymorth gyda ‘Help Scheme’ Dŵr Cymru os yn gymwys – gostyngiad o £250 yn eich bil dŵr.

Mi allwn ni helpu gyda cais Warm Home Discount os ydych yn gymwys – gostyngiad o £140 yn eich bil ynni!

Os am fwy o wybodaeth, neu cymorth gyda’r uchod, cysylltwch â’r Wardeiniaid Ynni ar 0300 111 2111 / aelodauwardeiniaidynni@grwpcynefin.org

 

Cookie Settings