Mae Y Shed yn cadw cyfrinachau cenedlaethau.

Yng nghanol Gallt Melyd, ger Prestatyn, mae’r hen adeilad carreg hwn wedi sefyll yng nghanol y pentref ers dros 100 mlynedd, ac yn arfer bod yn un o adeiladau’r rheilffordd oedd yn rhedeg y tu ôl iddo.

Ond yn 2019 fe gafodd ei thrawsnewid a’i hailagor yn ganolfan fywiog gyda chaffi, siop, amrywiaeth o fusnesau bach, ac arddangosfeydd hanes rhyngweithiol. Mae Y Shed hefyd yn cynnig gofod i weithio’n greadigol ac arddangos i fusnesau a chrefftwyr.

Gyda chefnogaeth cymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Preswylwyr Gallt Melyd, mae Y Shed yn cynnig lle i fusnesau newydd ganfod eu traed, tyfu a ffynnu.

 

Mae gan Y Shed hanes cyfoethog ac amrywiol, ond ers degawdau, roedd yn adfail mwy neu lai.

Diolch i waith caled y bobl leol a Grŵp Cynefin, mae’r adeilad oedd pawb wedi dechrau anghofio amdano wedi’i drawsnewid yn ganolbwynt bywiog i’r pentref. Mae bellach wrth galon y gymuned, wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad ac yn cynnig golygfa wych o’r môr.

Mae Y Shed yn cefnogi pum busnes newydd ynghyd â bron i 30 o grefftwyr hunangyflogedig sy’n arddangos eu gwaith yn siop Y Shed lle maen nhw’n gwerthu popeth o emwaith i fêl lleol.

Mae busnesau bach yn rhentu unedau pwrpasol, sydd wedi eu trawsnewid o fod yn gynhwysyddion llongau i adeiladau busnes modern, croesawgar.

 

Mae pob un o’r busnesau’n manteisio ar rent cystadleuol ac yn cael cymorth mewnol am ddim, gan gynnwys marchnata ar-lein a thraddodiadol.

Mae tîm Y Shed hefyd yn helpu busnesau newydd i ddod o hyd i gyfleoedd i ehangu trwy raglenni entrepreneuriaeth, fforymau, a grantiau.

Ochr yn ochr â’r busnesau, mae gennym gaffi mawr sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n croesawu anifeiliaid anwes.

Gall ymwelwyr sydd eisiau eistedd yn ôl ac ymlacio neu gwrdd â ffrindiau a theulu fwynhau digon o le tu mewn, a mesanîn tu allan sy’n cynnig golygfeydd heb eu hail dros fôr Iwerddon.

Yn ychwanegol at hyn mae gan Y Shed ddwy siop, parlwr hufen iâ, siop dillad chwaraeon, siop harddwch a person trin traed (podiatrist).

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am Y Shed, ewch i’w gwefan.

Cookie Settings