Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned

Awel y Dyffryn

Hoffech chi gael rhywfaint o gymorth ychwanegol er mwyn cadw eich annibyniaeth?

Mae Awel y Dyffryn, Dinbych, ein datblygiad diweddaraf, yn cynnig cartrefi o ansawdd uchel mewn cymuned gyfeillgar a chlos ar gyfer pobl hyn sydd eisiau dal i fwynhau byw’n annibynnol.

Mae Awel y Dyffryn yn gynllun £12m sy’n cynnig holl fanteision bywyd modern mewn amgylchedd cyfforddus a diogel.

Gallwch barhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 66 o fflatiau hunangynhwysol (self contained), gan wybod fod gofal a chefnogaeth wrth law 24 awr y dydd, os ydych ei angen. Rhoddir blaenoriaeth i drigolion Sir Ddinbych wrth osod y fflatiau.

Mae yno 42 o fflatiau dwy lofft a 24 o fflatiau un llofft, gyda gofal a chefnogaeth hyblyg y gellir ei deilwra o amgylch eich anghenion penodol fel y gallwch barhau i fyw’n annibynnol. Bydd ein staff bob amser yn ymateb yn ddoeth a sensitif wrth i’ch anghenion newid.

Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grwp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle 24 awr y dydd. Bydd cynlluniau cefnogaeth a gofal personol hyblyg ar gael, pe bai angen, wedi eu datblygu gyda chi i weddu eich anghenion presennol ac i’r dyfodol.

Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i’ch galluogi i fyw yn eich cartref eich hun cyn hired â phosib ac i wneud byw’n annibynnol yn haws.

Trwy rentu fflat un neu ddwy lofft yn Awel y Dyffryn bydd gennych yr hawl i ddefnyddio lolfeydd cymunedol ar gyfer sgwrsio a chymdeithasu â phreswylwyr eraill. Gallwch hefyd fwynhau gweithgareddau wedi eu trefnu fel gwaith celf a chrefft, boreau coffi, dosbarthiadau ymarfer corff, cwisiau, canu corawl, garddio a sesiynau pontio’r cenedlaethau gyda phlant a phobl ifanc lleol.

Bwriad adnoddau Awel y Dyffryn yw hybu iechyd a lles fel rhan o’r gymuned ehangach, atal unigrwydd a gwella iechyd meddwl.

Gweinir pryd canol dydd yn y bwyty cymunedol yn ddyddiol, gan roi’r cyfle i drigolion dderbyn pryd iach a blasus wrth sgwrsio dros ginio.

 

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Awel y Dyffryn, yna cysylltwch â ni.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org

Prif nodweddion:

  • Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
  • Gofal a chefnogaeth 24 awr y dydd
  • Gweithgareddau a’r ymdeimlad o fyw mewn cymuned
  • Gwasanaeth larwm Careline 24 awr y dydd ym mhob fflat
  • Gwasanaeth cynnal a chadw 24 awr mewn argyfwng
  • Pob fflat gyda chegin gyflawn, ystafell molchi, llofft a lolfa
  • Adnoddau hwylus – cawodydd yr un lefel â’r llawr, lifftiau a storfa sgwteri
  • System atal mynediad i ddieithriaid
  • Ardaloedd cymunedol – lolfeydd
  • Stafell fwyta
  • Lle golchi dillad
  • Lle trin gwallt
  • Lle i ymwelwyr aros nos
  • Lle parcio
  • Cyfleusterau therapi
  • Gerddi hardd
Cookie Settings