Mae nifer o ardaloedd gwledig yn poeni am brinder tai fforddadwy i bobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol, a sut mae hynny yn effeithio ar ddiwylliant ac economi leol.

Dyna pam ein bod ni’n cefnogi swyddogion sy’n gweithio fel Hwyluswyr Tai Gwledig ar draws yr ardal ydym ni yn gweithio ynddi.

 

Prif rôl yr hwyluswyr yma ydy:

  • codi ymwybyddiaeth am brinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol mewn ardaloedd gwledig
  • casglu gwybodaeth er mwyn deall yr angen am dai fforddiadwy o fewn y cymunedau gwledig
  • rhoi grym i’r cymunedau fel gallant ymchwilio i opsiynau arloesol
  • cynorthwyo cymunedau i ffurfio partneriaethau priodol
  • cynnig cefnogaeth i breswylwyr i fyw mewn cymunedau cynaliadwy
  • gwella’r berthynas rhwng asiantaethau gwirfoddol a statudol a chymunedau
  • gweithio gyda chymunedau fel y gallant gofrestru anghenion pobl leol

Mae croeso i chi e-bostio ein Hwyluswyr Tai Gwledig am fwy o fanylion.

 HTG@grwpcynefin.org

Cookie Settings