Homeswapper
Ydych chi eisiau cyfnewid eich tŷ cymdeithasol gyda rhywun sy’n denant i Grŵp Cynefin, neu gymdeithas dai neu gyngor lleol arall?
Beth bynnag ydy’r rheswm eich bod eisiau symud – tŷ rhy fawr neu fach, rhesymau meddygol, eisiau symud ardal neu briodas neu berthynas yn chwalu – mi allwn ni helpu.
Dyma rai opsiynau:
Cyfnewid efo tenant arall
Mi allwch gyfnewid eich tŷ cymdeithasol gyda thenant arall Grŵp Cynefin, cymdeithas dai arall neu Gyngor lleol cyn belled a bod y tŷ yn addas ar eich cyfer.
Mae Grŵp Cynefin yn aelod o Homeswapper a gallwch gofrestru drwy ymweld â’u gwefan.
Cofiwch fod rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig y Grŵp cyn cyfnewid gydag unrhyw denant arall, ac mae gennym ni hawl i beidio caniatáu cyfnewid os ydych chi wedi torri unrhyw delerau (e.e ôl-ddyledion rhent, achosi difrod i eiddo ac ati) neu os ydym yn meddwl nad ydy’r tŷ ydych chi eisiau symud iddo yn addas i chi.
Symud i dŷ arall
Os ydych eisiau symud i dŷ arall gan Grŵp Cynefin, mi allwch chi ofyn i gael mynd ar y rhestr trosglwyddo.
Mae yna rai eithriadau, ond mi wnawn ni drafod rheiny gyda chi.