Ymaelodi gyda Grŵp Cynefin

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n deall ac yn gwrando ar y gymuned rydyn ni’n gweithio ynddi, rydyn ni angen unigolion a sefydliadau i ymaelodi gyda Grŵp Cynefin.

Byddem yn hoffi clywed gan:

  • Unigolion
  • Grwpiau, mudiadau a sefydliadau lleol megis Cynghorau Cymuned a Thref
  • Tenantiaid

sy’n cytuno gyda’n amcanion fel cymdeithas dai ac yn fodlon gweithredu er budd y gymdeithas a’r gymuned.

Faint mae’n gostio?

Mae’n costio £1 i ymaelodi. Mi fyddwch chi wedyn yn cael copi o’r adroddiad blynyddol ac yn cael gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol neu’r Cyfarfod Cyffredinol.

Bwrdd Rheoli

Yn ystod Cyfarfod Blynyddol yr aelodau, mi fydd cyfle i ddewis aelodau i fod ar y Bwrdd Rheoli am gyfnod penodol o amser.

 

dyn a dynes yn edrych yn hapus, gyda merch fach ar ysgwyddau y dyn yn gafael mewn balwn

Sut alla i ymuno?

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth a ffurflen gais

 

 

Cookie Settings