Tim Jones, Cadeirydd

Gyda phrofiad helaeth o weithio ar lefel strategol mewn corff cyhoeddus, roedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau i Gyfoeth Naturiol Cymru cyn ymddeol. Mae bellach yn eistedd ar ambell fwrdd rheoli gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn gyn-gadeirydd bwrdd Canllaw, is-gwmni Grŵp Cynefin.

Sally Baxter, Is-gadeirydd

Cyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd a phrofiad helaeth ar lefel Bwrdd yn y GIG.

Nigel Finney

Uwch Swyddog Gweithredol am 20 mlynedd, mae gan Nigel wybodaeth a phrofiad eang o bob agwedd o redeg ac arwain cymdeithasau tai llwyddiannus, effeithlon, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

David Lloyd

Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer TPAS Cymru – sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid a Llywodraeth Cymru i helpu i siapio gwasanaethau tai a pholisi cenedlaethol.

Mike Corfield, aelod o'r bwrdd

Mike Corfield

Prif Weithredwr Cymdeithas Dai yn Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth yn y maes tai cymdeithasol ac mae’n aelod o nifer o Fyrddau Rheoli.

Paul McGrady

Prif Swyddog Cyllid efo Cymdeithas Dai yn Lloegr gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn y sector tai ar lefel weithredol. Yn ogystal â’i swyddogaethau cyllid, mae Paul hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb am nifer o brosiectau datblygu ac adfywio ar raddfa fawr.

Tony Oakley

Cyn Gyfarwyddwr o fewn Centrus sy’n darparu cyngor cyllid corfforaethol i ystod o gleientiaid ar draws sectorau. Cyn ymuno â Centrus roedd Tony yn Bennaeth Tîm Cyllid Tai Cymdeithasol Banc Lloyds.

Siôn Fôn

Cyfreithiwr i gwmni Darwin Gray LLP, ac yn arbenigo mewn cyfraith tai, tenantiaeth ac eiddo.

Delyth Lloyd

Cyn aelod o uwch-dim rheoli cymdeithas dai a dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi cyfathrebu a materion cyhoeddus ar draws y sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Paul Robinson

Rheolwr Llywodraethu, Rheoleiddio a Chydymffurfio profiadol, ac Ysgrifennydd y Cwmni.  Hefyd yn aelod Bwrdd profiadol.

David Lewis

Profiad helaeth yn y maes rheoli asedau ar lefel gweithredol a strategol.  Mae ganddo hefyd gymwysterau proffesiynol cydymffurfiaeth niferus.

Catherine Elaine Jones

Mae Catherine Elaine Jones yn denant sydd â phrofiad helaeth o ymwneud â’r gymuned a gwasanaeth cyhoeddus. Mae hi wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Tref a Maer, yn ogystal â chyfrannu at nifer o bwyllgorau cymunedol. Mae Catherine hefyd yn dod â phrofiad o ddysgu oedolion ac ymgysylltu â’r gymuned, ar ôl gwasanaethu’n flaenorol fel Is-gadeirydd Fforwm Dysgwyr Oedolion Cymru Gyfan. Fel tenant, mae hi’n dod â phrofiad bywyd gwerthfawr a dealltwriaeth gadarn o’r materion sy’n bwysig i denantiaid a chymunedau lleol.

Rebecca Colley-Jones

Mae gan Dr Rebecca Colley-Jones dros 25 mlynedd o brofiad ym meysydd cynaliadwyedd, effeithlonrwydd adnoddau a’r economi gylchol, yn ogystal â phrofiad sylweddol ar lefel bwrdd ac mewn rolau anweithredol. Mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar Gyfoeth Naturiol Cymru ac yn Gadeirydd Menter Môn, gyda arbenigedd penodol mewn llywodraethu, goruchwylio risg, datblygu cynaliadwy ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae gan Rebecca PhD mewn modelau busnes economi gylchol ac MBA mewn Rheoli Amgylcheddol, ac mae hi’n Rheolwr Adnoddau a Gwastraff Siartredig.

Cookie Settings