Tim Jones, Cadeirydd

Gyda phrofiad helaeth o weithio ar lefel strategol mewn corff cyhoeddus, roedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau i Gyfoeth Naturiol Cymru cyn ymddeol. Mae bellach yn eistedd ar ambell fwrdd rheoli gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn gyn-gadeirydd bwrdd Canllaw, is-gwmni Grŵp Cynefin

Llun o Sion Fon, aelod o'r bwrdd

Siôn Fôn, Is-gadeirydd

Cyfreithiwr i gwmni Darwin Gray LLP, ac yn arbenigo mewn cyfraith tai, tenantiaeth ac eiddo.

Jane Lewis, Tony Jones, member of the board

Jane Lewis

Profiad helaeth yn y maes Cyllid a Rheolaeth Trysorlys o fewn y sector iechyd, ac wedi bod yn aelod o sawl Bwrdd.

Nigel Finney

Uwch Swyddog Gweithredol am 20 mlynedd, mae gan Nigel wybodaeth a phrofiad eang o bob agwedd o redeg ac arwain cymdeithasau tai llwyddiannus, effeithlon, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

David Lloyd

Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer TPAS Cymru – sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid a Llywodraeth Cymru i helpu i siapio gwasanaethau tai a pholisi cenedlaethol.

Llinos Iorwerth

Mae gan Llinos 25 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu. Wedi cyfnod yn arwain tîm cyfathrebu a gofal cwmsner yn y sector dai, cyd-sefydlodd Ateb, cwmni cyfathrebu a materion iaith Gymraeg.

Mike Corfield, aelod o'r bwrdd

Mike Corfield

Prif Weithredwr Cymdeithas Dai yn Lloegr. Mae ganddo brofiad helaeth yn y maes tai cymdeithasol ac mae’n aelod o nifer o Fyrddau Rheoli.

Paul McGrady

Prif Swyddog Cyllid efo Cymdeithas Dai yn Lloegr gyda dros 10 mlynedd o brofiad yn y sector tai ar lefel weithredol. Yn ogystal â’i swyddogaethau cyllid, mae Paul hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb am nifer o brosiectau datblygu ac adfywio ar raddfa fawr.

Tony Oakley

Cyn Gyfarwyddwr o fewn Centrus sy’n darparu cyngor cyllid corfforaethol i ystod o gleientiaid ar draws sectorau. Cyn ymuno â Centrus roedd Tony yn Bennaeth Tîm Cyllid Tai Cymdeithasol Banc Lloyds.

Sally Baxter

Cyn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd a phrofiad helaeth ar lefel Bwrdd yn y GIG.

Delyth Lloyd

Cyn aelod o uwch-dim rheoli cymdeithas dai a dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi cyfathrebu a materion cyhoeddus ar draws y sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Paul Robinson

Rheolwr Llywodraethu, Rheoleiddio a Chydymffurfio profiadol, ac Ysgrifennydd y Cwmni.  Hefyd yn aelod Bwrdd profiadol.

David Lewis

Profiad helaeth yn y maes rheoli asedau ar lefel gweithredol a strategol.  Mae ganddo hefyd gymwysterau proffesiynol cydymffurfiaeth niferus.

Cookie Settings