Yr hyn sy’n bwysig i ni yw ein bod yn rhoi’r
gwasanaeth gorau posibl i chi

Sut i fynegi barn am wasanaethau Grŵp Cynefin

Canmol ☺

Hoffem glywed os ydych chi wedi’ch plesio gyda’n gwasanaeth. Mi allwn ni wedyn rannu hyn fel arfer da ymysg staff er mwyn sicrhau fod ein gwasanaeth yn gwella o hyd.

Sut i ganmol?

Os ydych chi’n dymuno gwneud canmoliaeth, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar

  • 03001112122
  • post@grwpcynefin.org
  • Cwblhewch y ffurflen Canmol neu Gwyno isod.

Cysylltwch â ni

Cwyno ☹

Cwyn ydi pan ydych chi ddim yn hapus ac eisiau i ni edrych i mewn i rhywbeth. Mae’n gallu bod am:

  • Rhywbeth rydyn ni wedi’i wneud
  • Rhywbeth dydyn ni ddim wedi’i wneud
  • Gwasanaeth gwael
  • Oedi
  • Camgymeriad
  • Aelod o staff neu gontractwr
  • Ein darpariaeth iaith Gymraeg

Beth sy’ ddim yn gŵyn?

Cais am wasanaeth ydi’r rhain, nid cwynion:

  • Rhoi gwybod am waith trwsio am y tro cyntaf
  • Gofyn am wasanaeth
  • Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gadael i ni wybod am broblem newydd
  • Herio neu apelio yn erbyn penderfyniad

Byddwn yn dal i helpu. Byddwn yn delio â’r rhain cyn gynted ag y gallwn.

Dyma ein Polisi Cwynion a’r Canllaw Hawdd ei Ddarllen isod:

Polisi Cwynion

Canllaw Hawdd ei Ddarllen

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd ydym ni wedi delio gyda’ch cwyn, mae croeso i chi wedyn gysylltu â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Manylion cysylltu’r Ombwdsmon:

0300 790 0203

ask@ombudsman.wales

www.ombwdsmon.cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ

Ffurflen Canmol

"*" Yn nodi maes gorfodol

Ffurflen Cwynion

Os yw ein ffordd arferol o ddelio â chwynion yn ei gwneud hi'n anodd i chi gyflwyno eich cwyn, rhowch wybod i ni a gallwn drafod unrhyw anghenion neu amgylchiadau sydd gennych, fel y gallwn eich cefnogi i gyflwyno eich cwyn.

Enw
Cyfeiriad
Gwneud cwyn ar ran rhywun arall. Eu manylion:
Os ydych yn gwneud cwyn ar ran rhywun arall, rhowch eu manylion yn yr adran hon. Cyn bwrw ymlaen â'r gŵyn, bydd angen i ni dderbyn cadarnhad eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu ar eu rhan.
Cyfeiriad
Dywedwch wrthym beth yw eich cwyn:
Max. file size: 50 MB.
Dyddiad

Cookie Settings