Datblygiadau
Aberdaron
Mewn partneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth grantiau Llywodraeth Cymru, mae gwaith adeiladu yn Aberdaron yn parhau’n dda. Bydd y datblygiad yn darparu chwe chartref rhent cymdeithasol a dau gartref rhent canolraddol. Disgwylir i’r cartrefi gael eu cwblhau a bod yn barod i denantiaid erbyn diwedd y flwyddyn.
Betws-y-Coed
Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Parc Cenedlaethol Eryri, Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynefin. Bydd y safle’n cynnwys pum cartref newydd ar gymysgedd o rent cymdeithasol a rhent canolraddol. Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod i denantiaid symud i mewn yn hydref 2026.
Trefor
Mae’r datblygiad hwn yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth grantiau Llywodraeth Cymru. Bydd y safle’n cynnwys 12 cartref rhent cymdeithasol a thri chartref rhent canolraddol, yn barod i denantiaid symud i mewn yn haf 2027.
