Mae’r adran cynnal a chadw yn cwblhau dros 20,000 o archebion gwaith pob blwyddyn ac mae’r galw am contractwyr cydwybodol, dibynadwy a phrofiadol yn enfawr.

Oes diddordeb gennych bod yn contractwr cofrestredig gyda Grŵp Cynefin?

Mae’r gymdeithas gyda dros 50 o gontractwyr wedi’u cymeradwyo ac rydym yn chwilio am rhagor.

 

Bydd gofyn i chi ddarparu y manylion sylfaenol isod yn ystod y cam cyntaf.

  • Manylion llawn eich cwmni (Enw, Cyfeiriad, Manylion Cyswllt)
  • Eich ardal weithredol
  • Eich maes gwaith (Saer Coed, Trydanwr, Peirianwyr Gwresogi ayyb)

 

Unwaith y bydd y wybodaeth uchod wedi ei ddarparu, bydd yr adran yn cysylltu gyda chi i gael mwy o gwybodaeth a chwblhau y broses gofrestru.

I gofrestru eich diddordeb mewn bod yn gontractwr, cysylltwch â’r Adran Cynnal a Chadw

0300 1112122

cynnalachadw@grwpcynefin.org

Cookie Settings