Rydym ni am weld ein staff yn llwyddo, yn bobl uchelgeisiol, arloesol a chreadigol a gyda’r sgiliau a’r tŵls sydd eu hangen i wneud eu gwaith.  Rydym eisiau i’n staff fod yn falch o weithio i Grŵp Cynefin.

 

Mae balans gwaith a chartref iach yn bwysig i ni, ac rydym yn annog staff i drafod iechyd meddwl yr un mor agored â iechyd corfforol.  Mae pobl yn bwysig i ni.

Ein gweledigaeth yw ‘Gwneud gwahaniaeth positif i fywydau a chymunedau’.  Yn rhan o’r weledigaeth honno mae darparu cartrefi o ansawdd rhagorol, sy’n saff ac yn fforddiadwy a chreu cymunedau mae ein tenantiaid a’n cwsmeriaid yn falch ohonyn nhw.

Nid dim ond adeiladu tai ydym ni, ond adeiladu cymunedau cryf a chynaliadwy.

merch fach yn chwythu bybls

Cookie Settings