Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Mae Grŵp Cynefin yn darparu ystod o wasanaethau tai â chymorth ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych, gyda’r nod o helpu unigolion a theuluoedd i fyw’n annibynnol, gwella lles ac atal digartrefedd.
Beth mae ein Prosiectau Atal Digartrefedd yn eu cynnig?
Mae ein timau’n gallu helpu gyda:
- sgiliau bywyd ac annibyniaeth
- gwneud cysylltiadau cymdeithasol a chymunedol
- rheoli arian, cyllidebu a hawlio budd-daliadau
- materion tai a chadw tenantiaeth
- gwella teimlad o ddiogelwch yn y cartref
- cyfleoedd addysg, hyfforddiant a gwaith
- hyrwyddo ffordd o fyw iach
- gwella lles a safon bywyd
- cydweithio gyda gwasanaethau a sefydliadau eraill
Isod mae manylion y prosiectau ym mhob ardal a’r cymorth sydd ar gael.
Gwynedd – 01758 703087
Prosiect Llety â Chymorth Pwllheli
Mae’r prosiect yn cynnwys chwe fflat hunangynhwysol yn Pwllheli ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref. Rydyn ni’n darparu cymorth ymarferol ac arweiniad i helpu pobl i symud tuag at fyw’n annibynnol.
Cynllun Cymorth Arnofi Gwynedd
Gwasanaeth sy’n gweithredu ar draws y sir i helpu unigolion a theuluoedd i gadw a rheoli eu cartrefi yn annibynnol.
Prosiect Cyswllt Digartrefedd Gwynedd
Cymorth i unigolion sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd gyda nifer o anghenion cymorth fel:
- digartrefedd
- camddefnyddio sylweddau
- cefndir troseddu
- iechyd meddwl
- anableddau dysgu lefel isel
Ynys Môn – 0300 111 0226
Prosiect Pobl Hŷn Ynys Môn
Cymorth arnofiol sy’n cefnogi pobl 55 oed a throsodd i fyw’n annibynnol cyhyd â phosib. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos, ac ar gael i denantiaid cymdeithasol, preifat ac i berchnogion tai.
Sir Ddinbych – 01745 813473
Prosiect Tai â Chymorth Dinbych
Mae’r prosiect yn cynnwys chwe fflat hunangynhwysol yn Ninbych ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref. Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cymorth i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n helpu pobl ifanc i:
- ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth
- gyrraedd addysg neu gyflogaeth
Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda HWB Dinbych, sydd wedi’i leoli yn yr un adeilad, i sicrhau cefnogaeth ddi-dor i bobl ifanc. Trwy Gynllun Cymorth Arnofi Dinbych a’r Cylch, mae pobl ifanc 16–25 oed yn derbyn cymorth ymarferol i sefydlu a chynnal tenantiaeth yn eu cymuned leol.
Sut i Wneud Atgyfeiriad
Gwneir pob atgyfeiriad i’r prosiectau hyn drwy Dîm Pwynt Mynediad Unigol (SPOA) yr awdurdod lleol perthnasol. Bydd SPOA yn asesu’r atgyfeiriad ac yn ei gyfeirio at y gwasanaeth cymorth cywir.
Mae rhagor o wybodaeth ac opsiynau cyfeirio yma:
Cyngor Gwynedd: Grant Cymorth Tai
Cyngor Sir Ynys Môn: Ffurflen gyfeirio am gymorth yn gysylltiedig â thai – Datganiad preifatrwydd – Section 1 – Fy Nghyfrif Môn
Cyngor Sir Ddinbych: Un Pwynt Mynediad | Cyngor Sir Ddinbych