Cuddio'r dudalen yma

Gwasanaethau Cam-drin Domestig 

0300 111 2121 

Llochesi a chefnogaeth argyfwng – Gwynedd ac Ynys Môn 

Mae gennym dair lloches i bobl sydd angen cefnogaeth i ddianc rhag cam-drin domestig yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Maent yn llefydd diogel, ar gael mewn argyfwng 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a’u plant.

Mae gennym brosiect Cefnogaeth Symudol sy’n cefnogi merched, dynion a’u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Cefnogi plant a phobl ifanc – Gwynedd 

Mae gennym ddarpariaeth arbenigol i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n dioddef o effeithiau cam-drin domestig. Gallwn gynnig gwybodaeth, anogaeth a chefnogaeth emosiynol i unigolion a theuluoedd yng Ngwynedd. 

Yn Nolgellau a Llangefni, mae ein Canolfan Un Stop Shop yn cynnig gwasanaeth holistig i unigolion sy’n dioddef cam-drin domestig. 

Gwneir atgyfeiriadau i’r holl brosiectau hyn trwy Dîm Pwynt Mynediad Sengl (SPOA) yr Awdurdod Lleol perthnasol. Bydd SPOA yn dosbarthu’r atgyfeiriad ac yn ei basio ymlaen i’r asiantaeth gymorth berthnasol. 

Ynys Môn: Ffurflen gyfeirio am gymorth yn gysylltiedig â thai – Fy Nghyfrif Môn

Gwynedd: Grant Cymorth Tai

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – 0808 80 10 800 

Os ydych chi, aelod o’r teulu, ffrind, neu rywun rydych chi’n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i drafod eich opsiynau â chi.

Gwasanaethau Atal Digartrefedd 

Mae Grŵp Cynefin yn darparu ystod o wasanaethau tai â chymorth ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych, gyda’r nod o helpu unigolion a theuluoedd i fyw’n annibynnol, gwella lles ac atal digartrefedd.

Beth mae ein Prosiectau Atal Digartrefedd yn eu cynnig? 

Mae ein timau’n gallu helpu gyda: 

  • sgiliau bywyd ac annibyniaeth 
  • gwneud cysylltiadau cymdeithasol a chymunedol 
  • rheoli arian, cyllidebu a hawlio budd-daliadau 
  • materion tai a chadw tenantiaeth 
  • gwella teimlad o ddiogelwch yn y cartref 
  • cyfleoedd addysg, hyfforddiant a gwaith 
  • hyrwyddo ffordd o fyw iach 
  • gwella lles a safon bywyd 
  • cydweithio gyda gwasanaethau a sefydliadau eraill 

Isod mae manylion y prosiectau ym mhob ardal a’r cymorth sydd ar gael. 

Prosiect Llety â Chymorth Pwllheli 

Mae’r prosiect yn cynnwys chwe fflat hunangynhwysol yn Pwllheli ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref. Rydyn ni’n darparu cymorth ymarferol ac arweiniad i helpu pobl i symud tuag at fyw’n annibynnol.  

Cynllun Cymorth Arnofi Gwynedd 

Gwasanaeth sy’n gweithredu ar draws y sir i helpu unigolion a theuluoedd i gadw a rheoli eu cartrefi yn annibynnol. 

Prosiect Cyswllt Digartrefedd Gwynedd 

Cymorth i unigolion sengl a theuluoedd 16 oed a throsodd gyda nifer o anghenion cymorth fel: 

  • digartrefedd 
  • camddefnyddio sylweddau 
  • cefndir troseddu 
  • iechyd meddwl 
  • anableddau dysgu lefel isel 

Prosiect Pobl Hŷn Ynys Môn 

Cymorth arnofiol sy’n cefnogi pobl 55 oed a throsodd i fyw’n annibynnol cyhyd â phosib. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos, ac ar gael i denantiaid cymdeithasol, preifat ac i berchnogion tai. 

Prosiect Tai â Chymorth Dinbych 

Mae’r prosiect yn cynnwys chwe fflat hunangynhwysol yn Ninbych ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref.  Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cymorth i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n helpu pobl ifanc i: 

  • ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth 
  • gyrraedd addysg neu gyflogaeth 

Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda HWB Dinbych, sydd wedi’i leoli yn yr un adeilad, i sicrhau cefnogaeth ddi-dor i bobl ifanc. Trwy Gynllun Cymorth Arnofi Dinbych a’r Cylch, mae pobl ifanc 16–25 oed yn derbyn cymorth ymarferol i sefydlu a chynnal tenantiaeth yn eu cymuned leol. 

Gwneir pob atgyfeiriad i’r prosiectau hyn drwy Dîm Pwynt Mynediad Unigol (SPOA) yr awdurdod lleol perthnasol. Bydd SPOA yn asesu’r atgyfeiriad ac yn ei gyfeirio at y gwasanaeth cymorth cywir. 

Mae rhagor o wybodaeth ac opsiynau cyfeirio yma: 

Cyngor Gwynedd: Grant Cymorth Tai 

Cyngor Sir Ynys Môn: Ffurflen gyfeirio am gymorth yn gysylltiedig â thai – Datganiad preifatrwydd – Section 1 – Fy Nghyfrif Môn 

Cyngor Sir Ddinbych: Un Pwynt Mynediad | Cyngor Sir Ddinbych 

Cookie Settings