Croeso Cynnes

Gall y gaeaf hwn fod yn anodd iawn i bawb. Ond mae canolfannau a lleoliadau ledled gogledd Cymru yn cynnig ‘Croeso Cynnes’. Os oes unrhyw un am sgwrs, paned neud lle cynnes i weithio neu ymlacio, mae Grŵp Cynefin yn rhan o gynllun Croeso Cynnes. Mae tair o’n canolfannau HWB Dinbych, Congl Meinciau yn Botwnnog ac Yr Orsaf ym Mhenygroes yn cynnig man cynnes a chroesawgar. Mae map o’r lleoliadau eraill ar draws y gogledd i’w gweld wrth glicio yma

Tips Llesiant

Mae costau byw cynyddol yn gallu bod yn boen meddwl. Mae’n bwysig edrych ar ôl eich hun o hyd, ond yn arbennig mewn cyfnod o bryder. Cymrwch sylw o’r cynghorion yma….

Cymryd gofal o'ch iechyd meddwl

Mae cyfnod anodd yn gallu sbarduno iechyd meddwl gwael – mae biliau cynyddol, costau nwyddau a bwyd yn boen meddwl ac yn achosi straen. Mae cyfnod o iechyd meddwl gwael yn beth cyffredin iawn ac yn ddim i fod a chywilydd ohono. Y peth pwysicaf os ydych chi yn teimlo o dan straen neu’n poeni am iechyd meddwl aelod o’r teulu neu ffrind ydi gofyn am help. Ddylai neb orfod wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Mae’n bwysig ofnadwy bod y wybodaeth gewch chi i’ch helpu yn un cywir.

Mae gwefan Mind Cymru yn cynnig cyngor yn Gymraeg a Saesneg ac yn llawn gwybodaeth am le i fynd am help.

Mind

Mae gwefan Meddwl.org yn llawn profiadau pobol a gwybodaeth yn Gymraeg am gymorth sydd ar gael.

Meddwl.org

 

Banciau bwyd

I gael cymorth gan fanc bwyd bydd angen taleb arnoch. Gofynnwch am daleb gan ein Tîm Lles.

Dewch o hyd i fanc bwyd drwy glicio ar y linc isod

 

Popty araf (Slow Cooker)

Eisiau defnyddio llai o ynni, arbed arian a bwyta’n dda?

Mae popty araf (slow cooker) yn ffordd wych o goginio llwyth o brydau yr un pryd a choginio gyda chynhwysion rhatach. Gall defnyddio popty araf yn lle popty arferol arbed cymaint â £195.71 y flwyddyn!

Cymerwch olwg ar dudalen 9 o rifyn arbennig ein cylchgrawn Yma i chi i weld beth yw gwahanol gostau rhedeg eitemau coginio yn y cartref i weld os fedrwch arbed arian!

Ydych chi’n denant i Grŵp Cynefin ac eisiau’r cyfle i gael popty araf am ddim? Cwblhewch y ffurflen isod

Ryseitiau Cost Isel

Cymerwch olwg ar sianel Youtube Grŵp Cynefin i weld fideos o sut i goginio prydau a bwydydd cost isel.

Burger, Potato Wedges & Coleslaw

Lasagne Llysieuol

Pryd Pysgodyn

 

 

 

Dyma dips gwych wrth goginio neu siopa bwyd…

Y Cynllun Cychwyn Iach

Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn darparu talebau i fenywod beichiog a theuluoedd cymwys i brynu llaeth, ffrwythau, llysiau a chorbys mewn siopau lleol. Mae teuluoedd hefyd yn cael cwponau i gael fitaminau drwy’r cynllun.

Os ydych o leiaf 10 wythnos yn feichiog neu os oes gennych blant o dan bedair oed, ac yn gymwys ar gyfer y cynllun, gallwch gael talebau am ddim bob pedair wythnos i’w gwario ar:

• Llaeth buwch
• ffrwythau a llysiau ffres, mewn tuniau neu wedi’u rhewi
• llaeth fformiwla i fabanod
• corbys ffres, sych ac mewn tuniau

I gael gwybod mwy am y cynllun, pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais, cliciwch ar y linc yma.

Cookie Settings