Rhoi’r gorau i Ysmygu

Rhoi’r gorau i ysmygu yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i wella’ch iechyd ac arbed arian. Os ydych chi’n ysmygu 20 sigarét y dydd, gallech arbed tua £380 y mis wrth roi’r gorau i ysmygu.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhoi’r gorau i ysmygu yn dechrau teimlo’r manteision iechyd mewn ychydig ddyddiau yn unig. Yn y tymor hir, mae rhoi’r gorau iddi’n lleihau lefelau straen a phryder.

Gall arbenigwr cyfeillgar Helpa Fi i Stopio eich helpu i dorri’r arferiad gyda chymorth personol am ddim bob wythnos, yn ogystal â therapi amnewid nicotin am ddim a meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim, hyd at £250 o werth.

Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i ysmygu gyda chymorth arbenigol am ddim gan y GIG. Teimlwch y gwahaniaeth.

Dechreuwch eich taith gyda Helpa Fi i Stopio heddiw.

 

Cookie Settings