Polisi Cwci

Pa Cwcis ydym yn eu defnyddio

Beth yw cwcis?

Weithiau yn cael eu hadnabod hefyd fel cwcis porwr neu cwcis tracio, mae cwcis yn ffeiliau testun bach wedi’u hamgryptio, sydd wedi’u gosod mewn cyfeiriaduron porwr. Fe’u defnyddir gan ddatblygwyr y we i helpu defnyddwyr i lywio eu gwefannau yn effeithlon a chyflawni swyddogaethau penodol. Oherwydd eu rôl graidd o wella/galluogi defnyddioldeb neu brosesau safle, gall analluogi cwcis atal defnyddwyr rhag defnyddio gwefannau penodol.

Mae cwcis yn cael eu creu pan fydd porwr defnyddiwr yn llwytho gwefan benodol. Mae’r wefan yn anfon gwybodaeth i’r porwr sydd yna’n creu ffeil testun. Bob tro mae’r defnyddiwr yn mynd yn ôl i’r un wefan, mae’r porwr yn nol ac yn anfon y ffeil hon i weinydd y wefan. Mae cwcis cyfrifiadur yn cael eu creu nid yn unig gan y wefan mae’r defnyddiwr yn pori ond hefyd gan wefannau eraill sy’n rhedeg adnodau, teclynnau neu elfennau eraill ar y dudalen sy’n cael eu llwytho. Mae’r cwcis hyn yn rheoleiddio sut mae’r adnod yn ymddangos neu sut mae’r teclynnau ac elfennau eraill yn gweithredu ar y dudalen.

Am ragor o wybodaeth gweler: www.allaboutcookies.org

 

Pa cwcis sy’n cael eu defnyddio ar y wefan hon?

Mae’r tabl isod yn esbonio’r cwcis a ddefnyddiwn a pham:


Ffynhonnell Google Analytics

Enw Cwci _gid, _gat, _ga

Diben: Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn yr wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu ni i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â‘r safle, lle mae ymwelwyr wedi dod i’r safle a’r tudalennau y buont yn ymweld â nhw.

Sylwadau:

Cliciwch yma am drosolwg o breifatrwydd yn Google


Ffynhonnell Cwci System Rheoli Cynnwys

Enw cwci exp_anon, exp_expiration, exp_last_activity, exp_last_visit, exp_sessionid, exp_tracker, exp_uniqueid, exp_userhash

Diben Caiff y cwcis hyn eu gosod yn ôl ein system rheoli cynnwys wrth gyrraedd ein safle. Nid ydynt yn cael eu defnyddio gan Grŵp Cynefin at unrhyw ddiben penodol.

Mae rhai o’r briwsion hyn yn cael eu dileu pan fydd defnyddiwr yn cau eu porwr, mae gan y lleill ddyddiad terfyn newidiol.

Sylwadau Mae cyflenwr Expression Engine, ein system rheoli cynnwys, y meddalwedd a ddefnyddiwn i ddiweddaru ein gwefan, yn gweithio i ganiatáu mwy o hyblygrwydd o ran y ffordd y gall defnyddwyr reoli sut y caiff cwcis eu gosod gan eu system.


Ffynhonell grwpcynefin.org – Panel Hawliau Cwci

Enw Cwci gdpr-cookie-law

Pwrpas Unwaith caiff ei dderbyn, mae’r Cwci hwn wedi’i osod fel bod y Panel Cynghori yn cael ei guddio nes bod y Cwci yn dod i ben.

Hysbysiad Preifatrwydd

1. Cyflwyniad

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ddogfen gyhoeddus sydd ar gael i unrhyw un ac mae’n berthnasol i gwsmeriaid Grŵp Cynefin i esbonio sut mae’r sefydliad yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal gweithgareddau busnes arferol fel cymdeithas dai elusennol yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. Gellir crynhoi gweithgareddau arferol fel:

  • Darparu tai cymdeithasol a mathau eraill o dai.
  • Cynnal a chadw a thrwsio eiddo a thiroedd.
  • Rheoli eich cartref, tenantiaeth/les a’ch cyfrif fel eich landlord.

Rydym ni hefyd yn darparu gwasanaethau dewisol ychwanegol yn cynnwys:

  • Trefnu a chynorthwyo digwyddiadau cymunedol.
  • Cynnig cyfleoedd i gymryd rhan.
  • Darparu cyngor budd-daliadau a lles.
  • Addasiadau i’r eiddo rydym ni’n eu rheoli.
  • Gwerthu eiddo.
  • Cefnogaeth i Ddefnyddwyr Gwasanaeth

Ein cenhadaeth yw ‘Darparu cartrefi a gwasanaethau rhagorol a datblygu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl yn dymuno byw.’

Ni yw ‘rheolydd data’ y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a’i defnyddio. Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am bennu’r diben a’r dulliau o brosesu eich data personol. Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan y rhif Z6706892.

Mae ein Swyddog Diogelu Data (SDD) yn sicrhau ein bod yn cymhwyso’r safonau gorau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn cydymffurfio â’n cyfrifoldebau dros ddiogelu data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol neu bryderon, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir o dan ‘Sut i Gysylltu â Ni’.

Mae ein Swyddog Diogelu Data (SDD) yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r safonau gorau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn cydymffurfio â’n cyfrifoldebau diogelu data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol neu bryderon, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd i’w weld o dan ‘Sut i Gysylltu â Ni’.

2. Sut rydym ni’n casglu eich gwybodaeth chi

Mae Grŵp Cynefin yn casglu gwybodaeth gennych chi trwy amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys pan rydych chi’n gwneud cais am un o’n heiddo neu ein gwasanaethau, yn llenwi un o’n ffurflenni, pan fyddwch chi’n ffonio, ysgrifennu, anfon neges e-bost neu’n cyfarfod gyda ni neu’n ymateb i arolwg. Gallem hefyd gasglu gwybodaeth pan fyddwch chi’n defnyddio ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol a’n gwefannau.

Gallem dderbyn gwybodaeth amdanoch chi gan drydydd partïon yn cynnwys:

  • Eich cyngor neu eich swyddfa fudd-daliadau ynghylch eich cartref.
  • Landlordiaid blaenorol ac asiantaethau credyd pan fyddwch chi’n gwneud cais am gredyd.
  • Yr Heddlu, a mudiadau cymorth neu les sy’n delio gyda chi.
  • Cynghorwyr, Aelodau Seneddol neu gynrychiolwyr eraill sy’n gweithredu ar eich rhan chi/yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi.
  • Sefydliadau ariannol pan fyddwch chi’n gwneud cais am ein gwasanaethau ni.

3. Pa wybodaeth rydym ni’n ei chasglu amdanoch chi

Y wybodaeth sy’n ofynnol gennych chi, y tenant(iaid) neu’r lesddaliwr(wyr), yn cynnwys:

  • Enw llawn (a thystiolaeth o bwy ydych chi / ffotograff hunaniaeth)
  • Dyddiad geni Tudalen 3 o 8.
  • Rhif Yswiriant Gwladol (eich rhif adnabod unigryw)
  • Manylion cyswllt (rhif ffôn, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad gohebiaeth)
  • Manylion unrhyw un wedi’i awdurdodi i weithredu ar eich rhan chi, os yw’n berthnasol gan gynnwys Gwybodaeth cyswllt eich perthynas agosaf.
  • Manylion sylfaenol (enw a dyddiad geni, rhyw a dewis iaith cyfathrebu) holl drigolion yr aelwyd
  • Manylion banc os ydych chi’n talu eich rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • Manylion eich cerdyn os ydych chi’n talu gyda cherdyn (fodd bynnag, nid yw manylion y cerdyn yn cael eu storio)
  • Tystiolaeth eich bod yn gymwys ar gyfer cartref, unrhyw fudd neu ecwiti mewn eiddo arall.
  • Gwybodaeth bersonol arall a fydd yn amrywio ar sail pob achos unigol i’n helpu ni i ddatrys achosion o dorri amodau tenantiaeth, ymddygiad gwrth gymdeithasol honedig neu dwyll honedig
  • Os ydych yn ein darparu gyda rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost, byddwn yn defnyddio’r dulliau yma I gyfathrebu â chi.

Mae’r wybodaeth y gallem ei chasglu gennych chi yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am anableddau neu fregus rwydd a nodweddion gwarchodedig. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i deilwra ein gwasanaeth i fodloni eich amgylchiadau a’ch anghenion chi yn well. Gallem ddefnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer diogelu staff neu i ddarparu cymorth priodol i denantiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Gwybodaeth ariannol. Gallem ddefnyddio hyn i helpu i ddatrys dyledion rhent ac i ddarparu cyngor lles, budd-daliadau a dyledion fel gwasanaeth am ddim i’ch helpu chi i reoli eich cyllideb a thalu eich biliau.
  • Gwybodaeth iechyd pan fo’n ofynnol i gefnogi cyllid ar gyfer addasiadau i’r eiddo rydych chi’n byw ynddo. Darperir manylion mwy penodol os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn.
  • Datganiadau banc, slipiau cyflog neu fanylion incwm pan fo’r wybodaeth hon yn ofynnol ar gyfer prosesu gwerthu neu brynu tŷ.
  • Gwybodaeth am eich anghenion cymorth chi i’ch helpu i barhau i fyw yn eich cartref.
  • Cymryd rhan mewn mentrau i gynorthwyo gydag atal allgáu ariannol a chymdeithasol.

Rydym ni’n gweithredu system camerâu teledu cylch cyfyng yn swyddfeydd Grŵp Cynefin er mwyn canfod ac atal troseddau.

O dro i dro gallem weithredu system camerâu teledu cylch cyfyng / recordiad sain a/neu ddefnyddio ffotograffiaeth i gasglu tystiolaeth am dorri amodau tenantiaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu honedig.

Hefyd gallem dynnu lluniau yn ein digwyddiadau, yn ein heiddio ac yn ein cymuned i’w defnyddio ar gyfer marchnata a chyhoeddusrwydd cyffredinol

4. Pa brosesu sy’n digwydd i’r wybodaeth a gasglwyd

Mae’r wybodaeth sy’n ofynnol gennych chi yn cael ei defnyddio i reoli eich cytundeb tenantiaeth neu lesddaliad neu unrhyw gytundeb arall rhyngoch chi a Grŵp Cynefin. Tudalen 4 o 8. Darllenwch eich cytundeb yn ofalus am fanylion penodol gan fod ‘cyflawni cytundeb’ fel arfer yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth chi a chynnal ein gweithgareddau ni.

Isod mae tabl sy’n rhestru’r dibenion yr ydym yn bwriadu defnyddio eich data personol ar eu cyfer, a’r sail gyfreithlon dros wneud hynny o dan Erthygl 6 GDPR y DU.

 

Dibenion prosesu Sail gyfreithlon
  • Rheoli eich cytundeb tenantiaeth neu lesddaliad neu gontract arall rhyngoch chi a Grŵp Cynefin
 

 

 

 

 

Erthygl 6 (1) (b) mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract

  • Rheoli taliadau a thaliadau eich cyfrif, gan gynnwys ôl-ddyledion.
  • Rheoli atgyweiriadau, cynnal a chadw ac addasiadau i’n heiddo.
  • Sicrhau bod cydymffurfiaeth gydag amodau tenantiaeth (neu gontract), e.e. delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dwyll.
  • Teilwra ein gwasanaeth i ddiwallu eich amgylchiadau a’ch anghenion penodol yn well.
  • Diogelu staff.
  • Darparu cymorth priodol i denantiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.
  • Helpu i ddatrys taliadau ôl-ddyledion rhent ac, yn opsiynol, i ddarparu cyngor ar les, budd-daliadau a dyledion fel gwasanaeth am ddim i’ch helpu i gyllidebu a thalu eich biliau.
  • I gefnogi gydag ariannu addasiadau a wneir i’r eiddo rydych yn byw ynddo. Darperir manylion mwy penodol os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
  • Prosesu gwerthu neu brynu tŷ
  • I’ch helpu i barhau i fyw yn eich cartref.
  • Cymryd rhan mewn mentrau i gynorthwyo i atal allgáu ariannol a chymdeithasol.
 
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.
Mae prosesu Erthygl 6 (1) (C) yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Atal, ymchwilio a chanfod ymddygiad a throseddu gwrthgymdeithasol, arestio ac erlyn troseddwyr.
  • Cynnal ymchwil a dadansoddiad ystadegol i helpu i wella ein prosesau busnes a’r gwasanaethau a gynigir i’n cwsmeriaid, yn ogystal â gwerthuso ein perfformiad yn erbyn meincnodau eraill. Pan fo’n bosibl, mae gwybodaeth ystadegol yn cael ei dienwi neu ei ffugenwi.
 

 

 

 

 

 

Erthygl 6 (1) (f) mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon.

  • Cynnal arolygon yn rheolaidd ac o dro i dro yn ymwneud â’n gwasanaethau er mwyn mesur boddhad a gwneud gwelliannau yn seiliedig ar adborth.
  • Recordiadau ffôn a ddefnyddir at ddibenion hyfforddi a monitro.
  • Defnyddio ffotograffau ar gyfer marchnata a chyhoeddusrwydd cyffredinol
  • Gwasanaethau gwirfoddol ychwanegol gan gynnwys trefnu digwyddiadau cymunedol, darparu cyngor am fudd-daliadau lles, addasu’r eiddo rydych chi’n byw ynddo, gwerthu eiddo a chasglu gwybodaeth i wella ein gwasanaethau. Ar gyfer y gwasanaethau gwirfoddol yma, lle mae angen eich gwybodaeth bersonol, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig, yn egluro’r gwasanaeth ac yn cael eich caniatâd i fwrw ymlaen, fel arfer drwy ffurflen gofrestru / caniatâd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.
 

 

 

 

 

 

Erthygl 6 (1)(a) mae prosesu yn seiliedig ar ganiatâd testun y data.

  • Defnyddio Data Categori Arbennig i Wella a theilwra ein gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion ac i sicrhau bod ein harferion gwaith sy’n ymwneud â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth yn gweithio.

5. Os yn methu darparu eich Data Personol

Os nad ydych chi’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom ni, yna efallai na fyddwn ni’n medru darparu ein holl wasanaethau i chi, ac yn y pen draw efallai na fyddwch chi’n medru dal tenantiaeth neu les gyda ni, neu brynu neu werthu eiddo trwyddo ni.

6. Gwybodaeth am blant a thrigolion eraill yr eiddo

Nid yw Grŵp Cynefin yn prosesu gwybodaeth am blant yn arferol fel rhan o Tudalen 5 o 8. denantiaeth, gan fod yr holl denantiaid yn oedolion. Fodd bynnag, rydym ni’n cofnodi gwybodaeth sylfaenol am blant os ydynt yn byw yn un o’n heiddo, yn cynnwys eu henw, eu rhyw a’u dyddiad geni. Mae hyn yn ofynnol er mwyn gwirio nad yw’r eiddo wedi’i orboblogi ac i asesu materion rheoli tenantiaeth eraill lle bo’n ofynnol gwybod am yr holl rai ar yr aelwyd a’u hoedrannau.

Gallem dderbyn gwybodaeth am blant os ydym ni’n ymwneud yn agweddau tai a thenantiaeth achos lles fel rhan o ddatrysiad gweithio aml-asiantaethol.

Hefyd gallem gofnodi gwybodaeth am blant a phobl ifanc ar gyfer cynllunio cymorth a darparu cymorth a chefnogaeth i’r teulu.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i unrhyw oedolion eraill sy’n byw gyda chi fel aelwyd.

7. Gwybodaeth am eiddo

Mae llawer o’r data rydym ni’n ei ddefnyddio yn ymwneud â’n heiddo a’u cynnal a’u cadw a’u trwsio. Nid ydym yn ystyried gwybodaeth am eiddo a ddefnyddio ar y cyd gyda chyfeiriad yr eiddo fel eich gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, oedran y gegin, canlyniadau arolwg asbestos, cynllunio i adnewyddu ffenestri neu drwsio tap.

Yn arferol rydym ni’n hapus i ddarparu atebion i chi i gwestiynau ynghylch yr eiddo rydych chi’n byw ynddo a’r gwaith a wnaed i’r eiddo.

Gynted ag y bo eich enw, manylion cyswllt neu wybodaeth bersonol arall yn cael ei defnyddio ar y cyd â gwybodaeth am eiddo, megis i gwblhau ymweliad trwsio eiddo, yna mae’n cael ei thrin fel gwybodaeth bersonol.

8. Sut y byddwn ni’n cyfathrebu gyda chi

Mae angen i Grŵp Cynefin gyfathrebu gyda’n cwsmeriaid a bydd hyn yn ysgrifenedig neu ar y ffôn yn arferol, ond mae’n dod yn fwy cyffredin cyfathrebu’n electronig ac yn ddi-bapur yn defnyddio systemau fel yr App Cynefin, Mailchimp, e-bost, Neges destun a WhatsApp. Rydym ni’n symud llawer o’n gwasanaethau ar-lein gan fod hyn fel arfer yn fwy cyfleus i chi ac yn fwy effeithlon i ni.

Bydd ein tenantiaid yn dderbyn cylchlythyrau, bwletinau a pamffledi gwybodaeth digidol a phapur gyda newyddion am y gymdeithas, materion yn ymwneud gyda ei tenantiaeth a diogelwch ei cartrefi.

Gwnawn drafod neu gyfathrebu eich manylion tenantiaeth neu les gyda’r rhai a enwir ar y cytundeb yn unig neu’r rhai wedi’u hawdurdodi (dros dro neu’n barhaol) gennych chi. Cewch awdurdodi rhywun ar lafar dros dro ar y ffôn neu’n barhaol yn ysgrifenedig.

9. Gyda phwy rydym ni’n rhannu’r data a pha mor hir rydym ni’n cadw gwybodaeth

Mae Grŵp Cynefin yn rhannu data personol cyfyngedig gyda’n contractwyr sy’n cyflawni gwasanaethau ar ein rhan. Mae’n ofynnol i’n contractwyr a’n cyflenwyr sy’n darparu gwasanaethu i chi ac i ni gydymffurfio â’r gyfraith a’n Cytundeb . Prosesu Data ein hunain i sicrhau y rheolir data yn briodol ac at ddibenion penodol, yn cynnwys i gynnal y gwasanaeth ffôn y tu allan i oriau swyddfa neu i gwblhau gwaith trwsio argyfwng, ymatebol neu gynlluniedig i eiddo.

Gallem rannu eich gwybodaeth gyda gwasanaeth cyfieithu os yw’n angenrheidiol cyfieithu unrhyw wybodaeth i, neu o, iaith dramor i chi.

Gallai fod yn ofynnol i Grŵp Cynefin rannu gwybodaeth bersonol gydag adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth, gyda’n rheoleiddiwr a’n harchwilwyr, gydag awdurdodau lleol, gyda chymdeithasau tai eraill a mudiadau cymorth, gyda sefydliadau partner cyfryngu ac eiriolaeth gyda chwmni cyfleustodau neu gyda sefydliadau ac asiantaethau eraill y caniateir i ni wneud hynny’n gyfreithlon.

Cedwir gwybodaeth yn ymwneud â chytundeb tenantiaeth neu gytundeb les am gyhyd ag y bo’r cytundeb yn weithredol neu, lle bo arian yn ddyledus ar y cyfrif, am gyfnod heb fod yn fwy na chwe blynedd wedyn. Bydd hanes sylfaenol pwy oedd yn dal tenantiaeth ym mha eiddo a phryd yn cael ei gadw am byth.

Gallem fod angen rhannu gwybodaeth gyda’n cyfreithwyr, yswirwyr, asiantau, brocer morgais, cynghorwyr ariannol, asiantaethau gwirio credyd, asiantau’r llys, syrfewyr, priswyr yn achos gwerthu eiddo a darparwyr hyfforddiant neu sefydliadau addysg.

Mewn rhai achosion efallai bod dyletswydd arnom i ddatgelu eich gwybodaeth chi, yn ôl y gyfraith, i:

  • Ein mudiadau partner y mae eu pwrpasau’n cyd-fynd â’n rhai ni
  • Cymdeithasau Tai eraill
  • Awdurdodau lleol, rheoleiddwyr ac adrannau’r llywodraeth
  • Yr heddlu, gwasanaeth tân neu’r awdurdod iechyd neu staff meddygol
  • Eraill a allai fod angen gwybodaeth gennym ni at eu dibenion eu hunain (ar gyfer atal neu ganfod troseddu, ac atal a chanfod twyll).

10. Cadw eich data

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni’r dibenion y gwnaethom gasglu’r wybodaeth honno ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Mae manylion cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau o’ch gwybodaeth bersonol ar gael yn ein polisi cadw y gellir ei arfer o dan yr adran “Sut i Gysylltu â Ni” yn y polisi hwn. I benderfynu ar y cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i’ch data personol yn cael ei ddefnyddio neu ei ddatgelu heb awdurdod, y dibenion y rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, ac a allwn ni gyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â chytundeb tenantiaeth neu brydles yn cael ei gadw am y cyfnod y mae’r cytundeb yn weithredol neu lle mae arian yn ddyledus ar y cyfrif, ac am gyfnod nad yw’n fwy na chwe blynedd wedi hynny. Bydd Gwybodaeth sylfaenol am bwy oedd â thenantiaeth ym mha eiddo a phryd yn cael ei gadw am byth.

11. Yr hyn na fyddwn ni’n ei wneud

Wnawn ni ddim anfon deunydd marchnata digroeso atoch chi.

Ni fyddwn ni’n gwerthu eich data personol i drydydd parti.

Ni fyddwn ni’n trosglwyddo eich data personol i drydydd partïon anghysylltiedig oni bai ein bod yn cael neu ei bod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith neu rydym ni’n cael caniatâd penodol i wneud hynny.

12. Trosglwyddiadau rhyngwladol

Gall eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU. Byddwn yn sicrhau bod pob trosglwyddiad rhyngwladol yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data perthnasol trwy weithredu mesurau diogelwch priodol yn unol â Phennod V GDPR y DU.

Er enghraifft, pan fyddwn yn penodi proseswyr data, rydym yn gwirio bod trefniadau addas ar waith e.e. Rheoliadau Digonolrwydd, rheolau corfforaethol rhwymol, cytundebau trosglwyddo data rhyngwladol, cymalau cytundebol safonol, neu fecanwaith arall sy’n cael ei ganiatáu.

 

13. Eich hawliau

O dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae gennych hawl mewn rhai amgylchiadau i:

  • Cael gwybod: Mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod am gasglu a defnyddio eu data personol.
  1. Cais am fynediad at eich Data: Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r data sydd gennym amdanoch chi (Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun). Byddwn bob amser yn ymdrechu i brosesu eich cais o fewn 30 diwrnod calendr:

Bydd bob amser yn help os gallwch fod mor benodol a phosib am pa ddata personol rydych chi am ei weld, beth ydi’r mater mae’n ymwneud ag o ac o fewn pa fath o amserlen, gan y bydd hynny’n helpu ein chwilio;

  • Cais i  gywiro eich data: Mae gennych yr hawl i gywiro’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi;
  • Cais i ddileu: Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu gwybodaeth bersonol lle nad oes rheswm da i ni barhau i’w phrosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich gwybodaeth bersonol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod);
  • Cais i gyfyngu ar brosesu: Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi dros dro, er enghraifft os ydych am i ni sefydlu ei chywirdeb neu’r rheswm dros ei phrosesu;
  • Cais am gludadwyedd data: Mae hyn yn eich galluogi i ofyn am drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i barti arall (mewn amgylchiadau penodol);
  • Gwrthwynebu: Mae hyn yn eich galluogi i wrthwynebu i’ch Gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu pan ydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiant trydydd parti). Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol;
  • Gwybod am unrhyw Benderfyniadau Awtomataidd a Phroffilio Awtomataidd a wneir;
  • Tynnu eich caniatâd yn ôl ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg pan ddibynir ar gydsyniad fel sail gyfreithlon ar gyfer prosesu

Gallwch arfer unrhyw un o’ch hawliau drwy ffonio, e-bostio neu drwy ysgrifennu atom ar y manylion cyswllt o dan “Sut i Gysylltu â Ni” isod. Nodwch eich gohebiaeth er sylw’r Swyddog Diogelu Data.

Mae gennych hefyd hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) pan ydych chi’n credu nad ydym wedi cydymffurfio â chyfraith diogelu data’r DU. Rydym yn eich annog i ddatrys y mater gyda ni i ddechrau. Fodd bynnag, gallwch gysylltu â’r ICO drwy www.ico.org.uk, casework@ico.org.uk neu 0303 123 1113

14. Sut i gysylltu â ni

(e) post@grwpcynefin.org

(t) 0300 111 2122

Grwp Cynefin Tŷ Silyn
Penygroes
Caernarfon
Gwynedd
LL54 6LY

15. Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd a diweddarwyd y fersiwn hon ym mis Chwefror 2025. Mae’r fersiwn lawn ddiweddaraf bob amser ar gael ar ein gwefan –www.grwpcynefin.org

Cookie Settings