Ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig
Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr fod ein tenantiaid yn teimlo’n ddiogel yn eu cartref ac ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig yn cael ei ddioddef.
Beth sy’n cael ei gyfri yn ymddygiad gwrthgymdeithsol?
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig yn cael ei ddiffinio fel hyn gan y gyfraith:
“achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu achosi gofid i un neu fwy nag un person nad ydynt o’r un cartref” (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998)
Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig
- fandaliaeth, graffiti neu ollwng sbwriel
- niwsans sŵn
- ymddygiad bygythiol neu ymddygiad sy’n codi ofn
- cam-drin geiriol
- aflonyddu hiliol
- troseddau cerbydau
- camddefnyddio tân gwyllt
- ymddygiad hwliganaidd a grwpiau bygythiol
Nid yw hon yn restr gyflawn a gall mathau eraill o ymddygiad gael eu cyfri yn ymddygiad gwrthgymdeithasol/ gwaharddedig.
Bydd unrhyw fath o aflonyddu, cam-drin geiriol neu gam-drin corfforol yn cael eu hystyried yn weithredoedd difrifol. Ni fedrwn dderbyn unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol/ gwaharddedig yn ein cartrefi.
Beth all Grŵp Cynefin ei wneud?
Os ydych chi’n gwneud cwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig fe wnawn ni ein gorau glas i helpu; dyma ein ymrwymiad i chi.
Mae gennym ni daflen i esbonio’r camau y dylech eu cymryd a rhestr wirio syml i chi ei dilyn.
Copi ar gael gan Cyswllt Cynefin
ApCynefin
Eisiau monitro lefel sŵn? Lawrlwythwch ein ap.
Rhoi gwybod i ni
Eisiau rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol/gwaharddedig?