Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
O 1 Rhagfyr 2022, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd yr ydych chi’n rhentu eich cartref ac yn rhyngweithio â’ch landlord. Efallai y bydd rhai newidiadau yn eich contract, sut mae eich cartref yn cael ei gynnal, neu sut yr ydych yn cyfathrebu â’ch landlord. Dysgwch sut mae hyn yn effeithio arnoch chi drwy glicio ar y linc isod
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml – Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref (cymdeithasol a phreifat) yng Nghymru.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Roedd y Ddeddf i fod i gael ei rhoi ar waith ar 5 Gorffennaf 2022, ond yn dilyn cyhoeddiad gan Julie James AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, mae hyn wedi’i ohirio tan 1 Rhagfyr 2022.
Pam ei fod yn digwydd?
- Er mwyn symleiddio’r broses o rentu cartref a gwella cyflwr tai rhent yng Nghymru.
- Bydd yn cynnig mwy o sicrwydd a hawliau i denantiaid
Beth sy'n newid?
- O dan y gyfraith newydd, byddwch chi fel tenantiaid Grŵp Cynefin yn cael eich adnabod fel deiliaid contract sicr. Bydd y telerau deiliad contract a thenant yn gyfnewidiol o dan y gyfraith newydd ac yn dilyn ymgynghoriad â thenantiaid, byddwn yn parhau i gyfeirio atoch fel tenantiaid yn ein gohebiaeth â chi.
- Bydd tenantiaid Tai â Chymorth yn cael contract safonol â Chymorth os disgwylir i chi fyw yn eich cartref am fwy na 6 mis.
- Bydd mwy o hawliau olyniaeth i denantiaid.
- Bydd y broses o ychwanegu neu ddileu cyd-ddeiliaid contract o gontract yn cael ei symleiddio heb fod angen terfynu contract.
- Bydd Grŵp Cynefin yn gallu adennill meddiant o eiddo segur heb fod angen gorchymyn llys.
- Bydd y dull o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn decach ac yn fwy cyson.
- Bydd gan landlordiaid fwy o rwymedigaethau i wneud eiddo’n ddiogel, gan gynnwys rhwymedigaeth i ddarparu larymau mwg gweithredol, synwyryddion CO2 (lle bo’n briodol) a phrofion diogelwch trydanol i bob cartref bob 5 mlynedd.
Beth mae'n ei olygu i mi fel tenant?
- Mae eich hawliau presennol yn cael eu diogelu dan y gyfraith newydd.
- Bydd y cytundebau newydd yn symleiddio ac yn gwella eich hawliau fel tenant.
Sut bydd yn effeithio arnaf i?
- Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth fel tenant presennol Grŵp Cynefin.
- Bydd eich tenantiaeth yn trosi’n gontract meddiannaeth yn awtomatig ar 1 Rhagfyr 2022 a byddwch yn derbyn copi o’ch contract newydd erbyn 1 Mehefin 2023 fan bellaf (o fewn 6 mis i’r dyddiad gweithredu newydd).
- Mae rhwymedigaethau Grŵp Cynefin o ran atgyweirio a chynnal a chadw yr un fath i raddau helaeth ag sy’n berthnasol ar hyn o bryd.
- Bydd pob tenant newydd yn arwyddo’r cytundebau meddiannaeth newydd o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen.
A yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn effeithio ar fy rhent?
- Na, nid yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn golygu cynnydd yn eich rhent. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn golygu y byddwch yn cael cyfnod rhybudd hirach (2 fis) cyn y gellir cyflwyno unrhyw godiad rhent.
Unrhyw gwestiynau pellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â Grŵp Cynefin ar
0300 111 2122
post@grwpcynefin.org
Ffurflen cysylltu â ni yma